Newyddion S4C

Carchar i gyn-heddwas am fyrgleriaeth a thwyll

11/07/2024
Ben Cooke

Mae cyn-swyddog Heddlu De Cymru wedi cael dedfryd o garchar wedi iddo gyfaddef troseddau byrgleriaeth a thwyll heddlu.

Fe wnaeth ymchwiliad gan y llu ddatgelu bod y cyn-sarjant Ben Cooke wedi bod ynghlwm â digwyddiad o fyrgleriaeth yn ardal Pen-y-bont, gyda thystiolaeth yn y lleoliad yn ei gysylltu â’r drosedd.

Yn dilyn ymchwilio pellach, daeth i’r amlwg fod Cooke wedi bod yn rhan o ymgais arall o fyrlgeriaeth, yn ogystal â dwyn allwedd drws ffrynt i eiddo a chamddefnyddio systemau cyfrifiadurol yr heddlu.

Fe wnaeth Cooke bledio’n euog i fyrgleriaeth, ymgais i fod yn rhan o fyrgleriaeth, dwyn, camddefnyddio systemau cyfrifiadurol yr heddlu a chyfrif o dwyll heddlu.

Ddydd Iau yn Llys y Goron Caerdydd, cafodd ddedfryd o chwe blynedd a phedwar mis yn y carchar.

Cyn ei euogfarnau, fe wnaeth Cooke ymddiswyddo ddau ddiwrnod cyn Gwrandawiad Camymddwyn Brys ar 25 Ebrill, wedi’i gadeirio gan y prif gwnstabl Jeremy Vaughan.

Yn y gwrandawiad, roedd Cooke yn wynebu cyhuddiad o ddwyn allwedd drws ffrynt o dŷ aelod o’r cyhoedd yr oedd wedi mynd iddo fel rhan o'i waith.

Cafodd yr allwedd ei ganfod yn ei fag yn ei gartref. Nid oedd ganddo eglurhad dilys am hynny. 

Canfu Mr Vaughan fod Cooke wedi camymddwyn yn ddifrifol, ac fe wnaeth roi nodyn o ddiswyddiad heb rybudd pe byddai’r swyddog yn dal wrth ei waith. 

'Annerbyniol'

Dywedodd Mr Vaughan: “Mae Ben Cooke wedi siomi’i hun a’r gwasanaeth heddlu yn ddrwg ac wedi dinistrio unrhyw ymddiriedaeth oedd gan gymunedau De Cymru ynddo fel heddwas. Mae ei ymddygiad yn gwbl annerbyniol.

“Mae’r ffaith ei fod wedi mynychu cartref aelod o’r cyhoedd pan ddylai fod wedi bod yn eu cefnogi yn eu hawr o angen, a chymryd eu hallwedd drws ffrynt yn fath o ymddygiad sydd bron yn amhosib i’w fesur.

“Mae swyddogion heddlu yn cadw gwybodaeth breifat werthfawr ac mae ganddyn nhw fynediad at bobl sydd yn aml mewn argyfwng ac angen cymorth. Mae’r ffaith bod y cyn swyddog hwn wedi manteisio ar ei safle breintiedig yn warthus.

“Mae mwyafrif helaeth y 6,000 a mwy o swyddogion a staff sy’n gweithio i Heddlu De Cymru yn ymddwyn yn berffaith ac yn gweithio’n ddiflino i amddiffyn y cyhoedd, ac mae’r ychydig iawn hynny sy’n dewis torri’r safonau a ddisgwylir ganddynt yn tanseilio ffydd y cyhoedd mewn plismona. 

"Does dim lle i’r math yma o ymddygiad yn Heddlu De Cymru.”

Mae Mr Vaughan wedi ysgrifennu llythyr personol o ymddiheuriad at ddioddefwr trosedd byrgleriaeth Cooke, gan ychwanegu: “Rydw i wedi fy nychryn gan ei weithredoedd ac yn flin iawn am y profiad a gawsoch gan heddwas sy’n gwasanaethu.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.