Newyddion S4C

Nation.Cymru yn dweud nad Hannah Blythyn oedd ffynhonnell negeseuon Vaughan Gething

11/07/2024

Nation.Cymru yn dweud nad Hannah Blythyn oedd ffynhonnell negeseuon Vaughan Gething

Mae gwefan newyddion wedi dweud nad Hannah Blythyn oedd eu ffynhonnell ar gyfer negeseuon testun gan Vaughan Gething a gafodd eu trosglwyddo i'r wasg.

Roedd Vaughan Gething wedi honni yn y Senedd ddydd Mercher mai o ffôn Hannah Blythyn yn unig allai’r negeseuon fod wedi dod.

Daw hynny wedi iddo ddiswyddo'r Aelod o Senedd Cymru dros etholaeth Delyn o'r cabinet ym mis Mai ar ôl i'r negeseuon ddod i'r amlwg.

“Ar ôl croeswirio’r llun gyda’r set lawn o negeseuon, daeth yn amlwg y gallai’r llun fod wedi bod o ffôn un aelod yn unig,” meddai.

Ddydd Mawrth, mewn datganiad yn y Senedd, gwadodd Hannah Blythyn unwaith eto iddi drosglwyddo manylion negeseuon testun i'r wasg am sgyrsiau Llywodraeth Cymru yn ystod pandemig Covid.

Ac mae gwefan Nation.Cymru, a dderbyniodd y negeseuon testun, bellach wedi dweud nad gan Hannah Blythyn oedden nhw wedi dod.

Dywedodd prif weithredwr y wefan eu bod nhw wedi dod i’r penderfyniad ar ôl gweld y “poen meddwl” yr oedd y mater wedi ei achosi i Hannah Blythyn.

Dywedodd Mark Mansfield: “Mae amddiffyn ffynonellau yn bwysig iawn i bob newyddiadurwr ac rydyn ni’n cymryd y cyfrifoldeb hwnnw o ddifrif. 

“Mae’n bwysig bod chwythwyr chwiban yn gallu bod yn dawel eu meddwl na fydd unrhyw wasanaeth newyddion yn datgelu pwy ydynt. 

“Fel rheol mae'n dilyn na fyddwn yn cynnal trafodaeth gyhoeddus ynghylch pwy a allai fod wedi bod yn ffynhonnell straeon ydyn ni'n eu cyhoeddi.

“Mae digwyddiadau’r wythnos hon, fodd bynnag, wedi ein hysgogi i ystyried yn ofalus oblygiadau datganiad personol Hannah Blythyn i’r Senedd ddydd Mawrth ac ymateb Vaughan Gething iddo ddydd Mercher.”

Ychwanegodd: “Gallwn ddatgan yn ddiamwys nad yw Mr Gething yn dweud y gwir pan mae’n awgrymu bod ganddo dystiolaeth gadarn mai Ms Blythyn oedd ein ffynhonnell.”

Ymateb

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n ffyddiog mai o ffôn Hannah Blythyn ddaeth y lluniau o’r sgwrs.

Roedd hynny oherwydd bod manylion oedd yn dangos hynny wedi eu cynnwys yn y llun o'r sgrin anfonwyd at Lywodraeth Cymru gan newyddiadurwr Nation.Cymru.

“Mae’r fersiwn heb ei olygu o’r sgrin a anfonwyd at Lywodraeth Cymru gan newyddiadurwr yn nodi perchennog y ffôn y daeth y sgrinlun ohono," medden nhw.

"Mae'r Prif Weinidog wedi ei gwneud yn glir dro ar ôl tro nad oedd yn barod i ryddhau'r fersiwn hon heb ei golygu oni bai bod pob unigolyn y gellir eu hadnabod ar y sgwrs yn cytuno i'w ryddhau."

‘Cymryd ei air’

Ddydd Mercher dywedodd y Ceidwadwyr eu bod nhw bellach wedi galw ail bleidlais o ddiffyg hyder yn Vaughan Gething.

Dywedodd Andrew RT Davies AS, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig: “Unwaith eto, am na fydd yn cynnig unrhyw atebion o’i wirfodd, mae’n rhaid llusgo’r Prif Weinidog gan gicio a sgrechian i’r Senedd.

“Mae’r Prif Weinidog yn disgwyl i ni gymryd ei air fod ganddo’r dystiolaeth i ddiswyddo Hannah Blythyn, ond yn anffodus, diolch i’w ymddygiad yn y swydd, ni all pobl Cymru gymryd ei air.

“Mae’n bryd cael atebion, a gobeithio y bydd Aelodau ar draws y Senedd yn ymuno â ni'r wythnos nesaf i bleidleisio o blaid tryloywder gan y llywodraeth.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.