Llofruddiaethau Clydach: Tystiolaeth newydd yn cael ei wrthod

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi dweud nad yw tystiolaeth newydd yn gysylltiedig â llofruddiaethau Clydach ym 1999 yn tanseilio euogfarn David Morris.
Mae Morris wedi treulio 22 mlynedd dan glo ar ôl iddo ei gael yn euog o lofruddio Mandy Power, dwy o'i merched ifanc a'i mam ym mis Mehefin 1999, meddai WalesOnline.
Cyhoeddodd Heddlu'r De ym mis Ionawr 2021 eu bod yn asesu tystiolaeth newydd yn gysylltiedig â'r achos a gafodd ei ddarganfod gan gyfres materion cyfoes BBC Wales Investigates.
Mae'r llu bellach yn dweud nad yw'r dystiolaeth a ddaeth i law yn effeithio euogfarn Morris, ond eu bod yn ystyried materion fforensig a gafodd eu herio yn y rhaglen ddogfen.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Tra bod y gwaith hwn yn parhau, mae ein meddyliau yn aros gyda'r teuluoedd a'r rhai a gafodd eu heffeithio gan yr achos a chydnabyddwn yr effaith sylweddol mae'n ei gael arnynt."
Darllenwch y stori'n llawn yma.