Prif Weinidog Cymru yn wynebu pleidlais arall o ddiffyg hyder
Mae Prif Weinidog Cymru yn wynebu ail bleidlais o ddiffyg hyder, fis ar ôl colli'r un cyntaf.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi gwneud y cynnig yn y Senedd ar gyfer pleidlais yr wythnos nesaf.
Eu gobaith yw gorfodi Vaughan Gething i gyhoeddi'r dystiolaeth oedd yn sail i ddiswyddo'r aelod o’i gabinet, Hannah Blythyn.
Cafodd Ms Blythyn ei diswyddo o'r llywodraeth ym mis Mai, yn dilyn cyhuddiadau gan Mr Gething ei bod wedi rhyddhau lluniau o negeseuon ganddo i’r cyfryngau.
Ddydd Mawrth, mewn datganiad yn y Senedd, gwadodd Hannah Blythyn unwaith eto iddi drosglwyddo manylion negeseuon testun i'r wasg am sgyrsiau Llywodraeth Cymru yn ystod pandemig Covid.
Ond ddydd Mercher fe wnaeth y Prif Weinidog fynnu ei fod wedi diswyddo’r person cywir.
“Ar ôl croeswirio’r llun gyda’r set lawn o negeseuon, daeth yn amlwg y gallai’r llun fod wedi bod o ffôn un aelod yn unig,” meddai.
‘Cymryd ei air’
Mae’r Ceidwadwyr bellach wedi galw ail bleidlais o ddiffyg hyder gan ddweud bod datganiad Vaughan Gething a Hannah Blythyn yn gwrthddweud ei gilydd.
Dywedodd Andrew RT Davies AS, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig: “Unwaith eto, am na fydd yn cynnig unrhyw atebion o’i wirfodd, mae’n rhaid llusgo’r Prif Weinidog gan gicio a sgrechian i’r Senedd.
“Mae’r Prif Weinidog yn disgwyl i ni gymryd ei air fod ganddo’r dystiolaeth i ddiswyddo Hannah Blythyn, ond yn anffodus, diolch i’w ymddygiad yn y swydd, ni all pobl Cymru gymryd ei air.
“Mae’n bryd cael atebion, a gobeithio y bydd Aelodau ar draws y Senedd yn ymuno â ni'r wythnos nesaf i bleidleisio o blaid tryloywder gan y llywodraeth.”
Llun gan Alastair Grant / PA.
.