Newyddion S4C

Ymgynghoriad cyhoeddus ar ddymchwel rhan o hen atomfa Trawsfynydd

11/07/2024
trawsfynydd

Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi'i lansio ar gynllun i ddymchwel rhan o Orsaf Bŵer Niwclear Trawsfynydd.

Dywedodd cwmni Nuclear Restoration Services Limited (NRS) eu bod nhw eisiau "amrywio" trwydded amgylcheddol yr orsaf yng Ngwynedd a gaeodd yn 1991.

Fel rhan o'r cais, mae NRS eisiau dymchwel, mewnlenwi a chapio adeiladau pyllau oeri Trawsfynydd, sef cyfres o adeiladau sydd wedi’u lleoli ochr yn ochr â dau adeilad yr adweithyddion.

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sydd yn caniatáu trwyddedi o'r fath yma.

Bellach mae ymgynghoriad cyhoeddus pedair wythnos yn cael ei gynnal tan 6 Awst er mwyn i aelodau'r cyhoedd allu rhoi sylwadau ar y cais.

Mae Martin Cox, Pennaeth Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer Gogledd Orllewin Cymru yn annog trigolion y pentref i leisio'u barn.

“Rydym yn deall bod yr amrywiad hwn o drwydded o ddiddordeb arbennig i’r cyhoedd a’r gymuned leol ac rydym yn annog cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan yn rhan ffurfiol yr ymgynghoriad hwn," meddai.

“Fel rheoleiddiwr y cais hwn, rydym wedi ymrwymo i gadw’r gymuned a’r amgylchedd yn iach.

“Fel rhan o’r broses o benderfynu ar y cais, mae’n rhaid i ni fod yn fodlon bod y gwaith dymchwel, gwaredu a chapio arfaethedig yn cael ei wneud mewn ffordd sy’n ddiogel ac sy’n bodloni ein safonau ar gyfer diogelu pobl a’r amgylchedd, a’i fod hefyd yn caniatáu i’r safle gael ei ryddhau o orchwyl rheoleiddio sylweddau ymbelydrol yn y dyfodol.

“Rydym yn rhagweld cyfnod penderfynu hir ar gyfer y cais hwn, a byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r cyhoedd drwy gydol y broses."

'Bodloni safonau'

Mae gan y pyllau oeri a'r celloedd storio cyfagos i'r orsaf strwythurau tebyg i flychau o dan y ddaear yn cynnwys gwagleoedd hyd at chwe metr o ddyfnder sydd tua 5,000 metr ciwbig i gyd.

Bydd dymchwel strwythurau concrid y pyllau sydd uwchlaw’r ddaear yn arwain at lenwi'r gwagle â choncrit sy’n cynnwys rhywfaint o ymbelydredd.

Bydd CNC yn ymgynghori ag arbenigwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Swyddfa Rheoleiddio Niwclear drwy gydol y cais, sy’n gorfod "bodloni ein safonau diogelwch ac amgylcheddol os yw am gael ei gymeradwyo," meddai llefarydd.

Unwaith y bydd y cyfnod penderfynu wedi'i gwblhau, bydd CNC yn rhoi gwybod os ydynt yn caniatáu'r amrywiad ai peidio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.