Newyddion S4C

Clybiau Cymru yn dechrau eu hymgyrch yng Nghyngres Europa

Sgorio 11/07/2024

Clybiau Cymru yn dechrau eu hymgyrch yng Nghyngres Europa

Nos Iau fe fydd Caernarfon, Cei Connah a’r Bala yn dechrau tymor 2024/25 yng nghymal cyntaf rownd ragbrofol Cyngres Europa.

Bydd y tri chlwb o Gymru yn dechrau eu hymgyrchoedd yn rownd ragbrofol gyntaf eu cystadlaethau, a bydd angen ennill pedair rownd o gemau rhagbrofol os am gyrraedd rownd y grwpiau.

Does dim un clwb o byramid Cymru erioed wedi llwyddo i gyrraedd rownd y grwpiau, ac mae’r gynghrair wedi talu’r pris am hynny gan golli un lle yn Ewrop ar gyfer y tymor nesaf.

Bydd Cei Connah, Y Bala a Chaernarfon yn anelu i ennill o leiaf un rownd ragbrofol, er mwyn dyblu eu henillion ariannol.

NK Bravo (Slofenia) v Cei Connah | Nos Iau, 11 Gorffennaf – 17:00 

(Venue Športni Park Šiška, Ljubljana - Cymal Cyntaf Rownd Ragbrofol Gyntaf Cyngres Europa 2024/25)

Bydd Cei Connah, orffennodd yn ail yn Cymru Premier JD 2023/24 yn teithio i Slofenia i wynebu, NK Bravo, orffennodd yn bedwerydd yn PrvaLiga Slofenia 2023/24.

Mae’r Nomadiad yn hen bennau ar gystadlu’n Ewrop bellach ar ôl chwarae 20 gêm (ennill 4) a chamu ‘mlaen ar ddau achlysur yn dilyn buddugoliaethau yn erbyn Stabaek yn 2016/17 a Kilmarnock yn 2019/20.

Mae NK Bravo o Ljubljana, sef prif ddinas Slofenia, yn glwb gymharol newydd ffurfiodd yn 2006, ac ar ôl dringo’r cynghreiriau yn y degawd diwethaf, eleni fydd eu ymddangosiad cyntaf erioed yn Ewrop.

Image
Cei Connah
Amddiffynnwr Cei Connah, Ryan Harrington yn brwydro i benio'r bêl. (Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru)

Mae gan reolwr Cei Connah, Neil Gibson atgofion melys o chwarae’n Ewrop ar ôl sgorio gôl dyngedfennol wrth i Brestatyn guro Liepajas Metalurgs o Latfia yn 2013.

Mae Gibson wedi ychwanegu sawl enw cyffrous i’r garfan dros yr haf, yn cynnwys cyn-gapten a chefnwr chwith Y Seintiau Newydd, Chris Marriott, yn ogystal â’r golwr ifanc, George Ratcliffe wnaeth serennu rhwng y pyst i Bontypridd y tymor diwethaf.

Ar ôl colli eu chwe rownd flaenorol yn Ewrop, mae’r gobeithion yn uchel i’r Nomadiaid fydd yn targedu eu buddugoliaeth gyntaf ers curo Kilmarnock yn 2019.

Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae yn Nantporth, Bangor ar nos Iau, 18 Gorffennaf gyda’r enillwyr yn wynebu HŠK Zrinjski Mostar (Bosnia) yn ail rownd ragbrofol Cyngres Europa.

Caernarfon v Crusaders (Gogledd Iwerddon) | Nos Iau, 11 Gorffennaf – 18:30 (Yn fyw ar S4C)

(Nantporth, Bangor - Cymal Cyntaf Rownd Ragbrofol Gyntaf Cyngres Europa 2024/25)

Mae Caernarfon wedi cyrraedd Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes ar ôl gorffen yn bumed yn nhymor 2023/24 a mynd ymlaen i ennill y gemau ail gyfle.

Bydd hi’n noson hanesyddol i’r Cofis sydd wedi bod mor agos at Ewrop yn y gorffennol, yn colli o 5-3 yn erbyn Y Drenewydd yn rownd derfynol gemau ail gyfle 2020/21, cyn ennill y gemau ail gyfle yn 2021/22 ond yn methu a hawlio lle’n Ewrop ar ôl i Gymru golli un safle’n Ewrop.

Roedd yr ymateb yn gymysg pan gyhoeddodd y clwb y byddai nhw’n chwarae eu gêm Ewropeaidd yn Nantporth, sef cartref presennol Bangor 1876, ond gyda’r tocynnau i gyd wedi eu gwerthu’n gyflym mae’n ymddangos fod y penderfyniad wedi ei gyfiawnhau.

Image
CPD Caernarfon
Gorfoledd: Chwaraewyr a chefnogwyr Caernarfon yn dathlu cyrraedd Ewrop ym mis Mai. (Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru)

Bydd hi’n anodd i reolwr Caernarfon, Richard Davies geisio llenwi esgidiau Sion Bradley, enillodd wobr ‘Chwaraewr y Tymor Cymru Premier JD 2023/24’ cyn gadael i ymuno â’r Seintiau Newydd, ond mae Davies wedi llwyddo i ddenu sawl enw profiadol i’r garfan, yn cynnwys Matty Jones a Ryan Sears o’r Drenewydd, a Paulo Mendes o’r Bala.

Mae gan gan Crusaders ddigonedd o brofiad Ewropeaidd ar ôl chwarae 54 o gemau’n Ewrop ers eu hymddangosiad cyntaf yn 1967, gan ennill naw o rheiny (ennill 17%).

Mae’r clwb o Belfast wedi wynebu enwau mawr ar hyd a lled Ewrop, yn cynnwys Valencia, Lerpwl, Fulham, Wolves a Chasnewydd!

Mae’r Crues wedi cael ychydig o lwyddiant yn Ewrop yn ddiweddar, gan ennill eu rownd ragbrofol gyntaf yng Nghyngres Europa yn y ddau dymor diwethaf, yn curo Bruno’s Magpies (Gibraltar) a Haka (Y Ffindir).

Gorffennodd Crusaders yn bedwerydd yn Uwch Gynghrair Gogledd Iwerddon 2023/24, ac fel Caernarfon bu rhaid i’r clwb ennill y gemau ail gyfle i hawlio eu lle’n Ewrop.

Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae yn Seaview, Belfast ar nos Fercher, 17 Gorffennaf gyda’r enillwyr yn camu ymlaen i wynebu Legia Warszawa (Gwlad Pwyl) yn ail rownd ragbrofol Cyngres Europa.

Y Bala v Paide Linnameeskond (Estonia) | Nos Iau, 11 Gorffennaf – 19:00 

(Neuadd y Parc, Croesoswallt - Cymal Cyntaf Rownd Ragbrofol Gyntaf Cyngres Europa 2024/25)

Ar ôl un flwyddyn i ffwrdd, mae’r Bala’n dychwelyd i Ewrop eleni ac yn barod am eu 10fed rownd Ewropeaidd.

Mae’r Bala wedi cystadlu’n gyson yn Ewrop ers degawd, ond dyw’r canlyniadau ddim wedi bod yn wych gyda’r clwb wedi chwarae 16 gêm, ennill pedair, a churo dim ond un rownd allan o naw (yn erbyn Valletta yn 2020).

Roedd y Bala’n hynod o anlwcus yn eu hymddangosiad diwethaf yn Ewrop, wrth golli ar giciau o’r smotyn yn erbyn Sligo Rovers o Weriniaeth Iwerddon yn haf 2022.

Fel Cei Connah, mae’r Bala’n wynebu tîm gymharol newydd gan does ond 20 mlynedd ers i glwb Paide Linnameeskond gael ei ffurfio yng nghanolbarth Estonia.

Image
Y Bala
Mae Nicky Smith wedi arwyddo cytundeb byr dymor newydd gyda'r Bala.( Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru)

Gorffennodd Paide yn bedwerydd yn nhymor 2023 y Meistriliiga i sicrhau lle’n Ewrop, ac mae’r tîm yn parhau’n yr un safle ar ôl 20 gêm yn nhymor 2024.

O’r pedwar clwb sy’n herio timau Cymru yr haf yma, Paide yw’r unig rai sydd yn chwarae trwy’r haf ac sydd yng nghanol eu tymor domestig ar hyn o bryd.

Dyw Paide ond wedi ennill un o’u 11 gêm flaenorol yn Ewrop, ond yn rhyfeddol mae nhw wedi ennill dwy allan o’u chwe rownd.

Yn haf 2022 fe guron nhw Dinamo Tbilisi o Georgia ar giciau o’r smotyn ar ôl ennill o 3-2 yn y cymal oddi cartref, sef eu hunig fuddugoliaeth mewn 90 munud.

Ac yn y rownd ganlynol, ar ôl dwy gêm ddi-sgôr yn erbyn Ararat-Armenia, fe enillon nhw eto ar giciau o’r smotyn i gyrraedd trydedd rownd ragbrofol Cyngres Europa, ble gollon nhw yn erbyn Anderlecht.

Mae rheolwr Y Bala, Colin Caton wedi bod yn brysur dros yr haf gan ddod a dau gyn-chwaraewr talentog yn ôl i’r clwb drwy ail-arwyddo Louis Robles o’r Drenewydd a Lassana Mendes o Henffordd.

Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae yn Pärnu Rannastaadion ar nos Iau, 18 Gorffennaf gyda’r enillwyr yn camu ymlaen i wynebu Stjarnan (Gwlad yr Iâ) neu Linfield (Gogledd Iwerddon) yn ail rownd ragbrofol Cyngres Europa.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.