Newyddion S4C

Dechrau adeiladau canolfan cymorth canser yn Sir Ddinbych

10/07/2024
Canolfan Maggie's yn Sir Ddinbych

Bydd gwaith adeiladu ar ganolfan cymorth canser yn Sir Ddinbych yn dechrau ddydd Iau.

Bwriad Canolfan Maggie's yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan yw rhoi cymorth arbenigol i gleifion canser a'u teuluoedd.

Mae'r ganolfan £4m wedi ei dylunio, ei chomisiynu a'i ariannu gan Sefydliad Steve Morgan, ac mae disgwyl i'r drysau agor yn 2025.

Mae tua 5,000 o bobl yn cael diagnosis o ganser bob blwyddyn yng Nghanolfan Trin Canser GIG Gogledd Cymru yn Ysbyty Glan Clwyd.

Ar hyn o bryd, mae dwy ganolfan Maggie's yng Nghymru - un yn Abertawe ac un arall yng Nghaerdydd.

Ond dyma'r tro cyntaf i'r elusen sefydlu canolfan o'i bath yn y gogledd.

'Gwella cymorth canser'

Dywedodd Carol Shillabeer, prif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, y bydd y ganolfan yn "gwella cymorth" i gleifion canser.

“Rwyf wrth fy modd bod gwaith yn dechrau ar Ganolfan Maggie’s yng Ngogledd Cymru.

“Gan weithio’n agos gyda Chanolfan Trin Canser Gogledd Cymru, sydd hefyd wedi’i lleoli yn Ysbyty Glan Clwyd, bydd y cyfleuster newydd hwn yn ymestyn ac yn gwella’r cymorth rydym yn ei gynnig i bobl â chanser a’u teuluoedd.

“Rwyf hefyd am ddiolch yn arbennig i Sefydliad Steve Morgan am ei gyllid hael ar gyfer yr hyn yr wyf yn siŵr a fydd yn gyfleuster gwerthfawr iawn.”

Llun: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.