Newyddion S4C

Starmer: Gwario ar amddiffyn am ddigwydd ond dim amserlen

10/07/2024
Starmer a'i wraig yn cyrraedd Washington ar gyfer cynhadledd Nato

Mae Syr Keir Starmer wedi dweud bod ei addewid i wario 2.5% ar amddiffyn yn mynd i ddigwydd ond mae wedi gwrthod rhoi amserlen.

Ddydd Mercher bydd y Prif Weinidog newydd yn cyfarfod arweinwyr Nato yn Washington lle bydd pwysau ar yr aelodau i gynyddu gwariant ar amddiffyn.

Dywedodd y Gweinidog Amddiffyn newydd, Luke Pollard ar raglen BBC Today Radio 4 mai’r cam cyntaf fyddai gwneud adolygiad o’r gyllideb amddiffyn. 

“Rydyn ni yn gwybod ein bod ni angen gwario mwy. Rydyn ni angen gwneud yn siŵr mai nid dim ond y ffigwr pennawdol sy’n bwysig ond ar beth a sut ydyn ni yn gwario'r arian. Dyw’r Adran Amddiffyn ddim wastad wedi bod yn effeithiol yn eu gwariant.”

Pan ofynnwyd iddo a oedd y lluoedd arfog yn medru cyflawni ei dyletswyddau, dywedodd ei fod wedi cael “sicrwydd” y gallen nhw.

Ond cyfaddefodd bod yr arian i helpu Wcráin wedi “gadael bylchau” yn y gyllideb. 

Mae’r Ysgrifennydd Amddiffyn Cysgodol wedi dweud bod oedi cyn penderfynu sut i gynyddu’r gwariant amddiffyn i 2.5% yn “niweidiol i'r lluoedd arfog”.

Mewn cyfweliad gyda Sky News, dywedodd James Cartlidge bod yna gyfle wedi bod i osod amserlen glir yng nghynhadledd Nato ond bod Syr Keir Starmer ddim wedi gwneud hyn. 

“Mi fyddai hynny wedi bod yn arwydd pwerus clir i eraill - yn lle hynny mae wedi achosi oedi, a dw i’n meddwl bod hynny yn gallu bod yn niweidiol.”

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.