Penodi'r Fonesig Nia Griffith yn weinidog yn Swyddfa Cymru
Mae Aelod Seneddol Llanelli, y Fonesig Nia Griffith, wedi ei phenodi'n weinidog yn Swyddfa Cymru.
Cafodd ei hethol yn Aelod Seneddol gyntaf yn 2005, a dyma'r tro cyntaf iddi gael rôl mewn llywodraeth.
Y Fonesig Griffith oedd ysgrifennydd yr wrthblaid dros Gymru, pan roedd Syr Keir Starmer ac Ed Miliband yn arwain Llafur fel gwrthblaid. Roedd hi'n ysgrifennydd amddiffyn yr wrthblaid pan roedd Jeremy Corbyn yn arweinydd Llafur.
Mae Aelod Seneddol Pontypridd, Alex Davies-Jones hefyd wedi ei phenodi'n weinidog yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ac mae cyn-Aelod Seneddol Delyn David Hanson bellach yn weinidog yn y Swyddfa Gartref. Bydd yn eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi.