Newyddion S4C

Hannah Blythyn yn siarad am ei hymddiswyddiad am y tro cyntaf ar lawr y Senedd

09/07/2024

Hannah Blythyn yn siarad am ei hymddiswyddiad am y tro cyntaf ar lawr y Senedd

Bron ddeufis ers iddi gael ei diswyddo gan Vaughan Gething o gabinet Llywodraeth Cymru, mae Hannah Blythyn wedi trafod effaith hynny ar ei hiechyd meddwl.   

Mewn datganiad pwerus ar lawr y Senedd, gwadodd yr aelod o'r Senedd dros etholaeth Delyn unwaith eto iddi drosglwyddo manylion negeseuon testun i'r wasg. 

Roedd y manylion yn ymwneud â sgwrs am y cyfnod Covid ac yn cynnwys sylwadau honedig gan y Prif Weinidog Vaughan Gething a oedd yn Weinidog Iechyd ar ddechrau'r pandemig. 

"Dydw i erioed wedi rhyddhau unrhyw wybodaeth na briffio'r cyfryngau am unrhyw un ohonoch," meddai wrth weddill aelodau'r Senedd brynhawn Mawrth. 

"Tra nad wyf yn bwriadu rhannu'r holl fanylion, rwyf yn fodlon dweud wrthych fy mod wedi codi pryderon yn ffurfiol am y broses, wrth i mi golli fy rôl yn y Llywodraeth, sy'n cynnwys y ffaith na chefais weld unrhyw dystiolaeth honedig cyn cael fy niswyddo. 

"Ni chefais wybod fy mod o dan ymchwiliad, ac nid ar unrhyw bwynt y cefais fy nghynghori fy mod o bosib wedi torri'r côd gweinidogol." 

"Effaith andwyol"

Aeth ymlaen i ddweud fod ganddi bryderon pellach. 

"Mae gennyf bryderon nad oes gwersi wedi eu dysgu o'r gorffennol,"meddai.

"Rwy'n gwybod fod dyfalu a ydw i'n ddigon da i weithio. 

"Mae'r hyn ddigwyddodd wedi cael effaith andwyol arna i ar lefel bersonol, sydd wedi arwain at boen meddwl a straen."

Ychwanegodd nad yw hi erioed wedi cael llythyr salwch o'r gwaith o'r blaen, a'i bod yn awyddus i dynnu sylw at faterion iechyd meddwl ac effaith hynny.

"Dydw i ddim yn credu bod gwleidyddiaeth wedi torri," meddai "ond gallai fod yn well."  

"Fedrwn ni ddim cael gwleidyddiaeth mwy caredig, heb bobol caredicach."       

Wrth iddi gloi ei haraith, dywedodd mai braint oedd gwasanaethu yn Llywodraeth ei gwlad yn "enwedig o dan arweinyddiaeth Mark Drakeford "   

Ychwanegodd ei bod yn benderfynol o barhau i gyfrannu tuag at ddemocratiaeth ddatganoledig ei chymuned a'i gwlad. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.