Ymosodwr Y Seintiau Newydd: 'Cael fy nhrywanu wedi gwneud i mi ganolbwyntio ar bêl-droed'
Mae ymosodwr clwb Y Seintiau Newydd, Brad Young wedi dweud fod cael ei drywanu wedi bod yn “beth da” i’w yrfa bêl-droed yn y pen draw.
Roedd yn siarad cyn gêm y Seintiau Newydd yng Nghwpan y Pencampwyr. Bydd y clwb yn croesawu pencampwyr Montenegro, FK Dečić i Neuadd y Parc nos Fawrth yng nghymal cyntaf rownd ragbrofol gyntaf y gystadleuaeth.
Roedd Young yn 17 oed pan ddioddefodd ymosodiad a’i drywanu deirgwaith mewn parc yn Solihull ym mis Mai 2020.
Fe wnaeth un o’r clwyfau hynny daro gwythïen fawr a oedd yn 12cm mewn dyfnder.
Arweiniodd hynny at yr angen am lawdriniaeth i achub ei fywyd a thri thrallwysiad gwaed er mwyn iddo oroesi.
Bedair blynedd yn ddiweddarach, mae’n paratoi i chwarae yn rowndiau rhagbrofol pencampwyr Cymru yng Nghynghrair y Pencampwyr.
Dywedodd fod y digwyddiad yn gatalydd ar gyfer newid yn ei yrfa.
“Ro’n i mewn parc gyda fy ffrindiau ac fe ddaeth grŵp o fechgyn ataf, ac ymosod arnaf,” meddai cyn-chwaraewr academi Aston Villa.
“Fe wnes i ymladd yn ôl. Roedd y bachgen wnaeth fy mhwnio yn fy wyneb wedi gafael yndda i mewn penglo, ac fe wnes i deimlo rhywbeth rhyfedd yn fy nghefn. Fe wnes i adael, edrych i lawr a gweld fy mod wedi cael fy nhrywanu deirgwaith.
Cymryd pêl droed 'o ddifrif'
“Fe wnes i alw’r ambiwlans ac yna fe wnes i lewygu i’r llawr. Fe wnaethon nhw fy rhuthro i'r ysbyty a do’n nhw ddim yn gwybod beth oedd yn mynd i ddigwydd. Fe wnaeth un o'r clwyfau drywanu gwythïen fawr ac fe wnes i golli llawer o waed.”
Roedd y digwyddiad wedi gwneud i Young feddwl llawer am ei yrfa bêl-droed, gan wneud iddo ailystyried ei gyfraniad i’r gamp.
“Yr oedran yna, ro’n i'n chwarae o gwmpas ac yn mynd allan. Do’n i ddim yn cymryd pêl-droed o ddifrif. Ro’n i'n partïo, pethau arferol mae pobl ifanc 17 oed yn eu gwneud, ond ddim yn arferol i bêl-droediwr ei wneud.
“Os rhywbeth, roedd e'n beth da ac fe wnaeth agor fy llygaid am beth ro’n i wir eisiau ei wneud a beth ro’n i wedi bod yn gweithio tuag ato ar hyd fy oes. Roedd e wedi fy neffro, ac fe wnes i sylweddoli bod yn rhaid i mi roi'r gorau i chwarae o gwmpas a rhoi fy meddwl ar waith.
“Dwi’n falch ohonof fi fy hun.”