Newyddion S4C

'Bai fi oedd e': Yr euogrwydd o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus

Y Byd ar Bedwar 08/07/2024

'Bai fi oedd e': Yr euogrwydd o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus

Mae bachgen oedd yn gyrru’r car wnaeth ladd merch mewn damwain wedi siarad am y tro cyntaf am fyw gyda’r euogrwydd yn dilyn y fath brofiad.

Roedd Dylan Benjamin yn 18 oed pan gollodd reolaeth o’i gar ger Aberystwyth. Bu farw un o’r teithwyr yn y car, Ellie Bryan, yn 18 oed yn y gwrthdrawiad.

“Bai fi oedd e bod hi ddim ’ma, a dw i yn teimlo’n euog,” meddai wrth raglen Y Byd ar Bedwar. 

“I fod yn onest, fe fydden i’n newid lle gyda hi fel bod hi’n gallu mynd adre i weld ei theulu.”

Bu Dylan mewn coma am bythefnos ac yn yr ysbyty am dri mis. Pan ddeffrodd i glywed fod Miss Bryan wedi marw, mae’n dweud i’w “galon gwympo drwy’i esgidiau”.

“O’n i’n teimlo mor drist. Fydden i wedi gwneud unrhyw beth i’w hachub i, ond o’n i’n methu newid y gorffennol.”

Derbyniodd ddedfryd o bum mlynedd am achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus, wedi’i chwtogi i 20 mis yn y carchar ac 20 mis ar brawf yn y gymuned.

“Fi’n meddwl dylen i fod wedi cael ychydig mwy o amser yn y carchar i’w theulu hi, achos fe fydden nhw wedi eisiau gweld fi’n cael mwy. Wedi dweud ’ny, fi wedi dysgu gwers fi a fydden i byth yn ei wneud e eto.”

'Peidiwch showan off'

Clywodd y llys fod Dylan wedi gyrru yn rhy gyflym ar gyrion Aberystwyth, cyn colli rheolaeth yn llwyr, a tharo i mewn i goeden a char arall.

Dywedodd y barnwr ei fod wedi dangos ei hun, sydd yn rhywbeth mae’n cyfaddef iddo ei wneud ar y pryd.

“Peidiwch rhoi mewn i’r pwyse gan bobl eraill. Peidiwch showan off. Triwch fod yn gall ac yn saff.”

Mae ffigyrau diweddaraf Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn awgrymu bod gyrwyr ifanc yn rhan o un ymhob pump gwrthdrawiad yn 2022.

Roedd gyrwyr rhwng 17 a 24 oed bedair gwaith yn fwy tebygol o gael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol na'r rhai dros 25 oed.

Mae Dylan, sydd nawr yn 23 oed, yn siarad yn agored am y tro cyntaf yn y gobaith o rybuddio pobl ifanc eraill.

“Mae’n rywbeth sydd yng nghefn fy meddwl i drwy’r amser. Dwi’n meddwl amdano fe bob dydd.”

'Chwalu bywydau'

Mewn datganiad, fe ddywedodd teulu Ellie Bryan, a gafodd ei lladd yn y ddamwain, fod y pedair blynedd ddiwethaf wedi bod “yn hunllef.”

Image
Ellie Bryan
Ellie Bryan

“Pan fyddwch yn colli plentyn, mae darn ohonoch chi’n cael ei golli hefyd.

“Roedd hi’n ferch, chwaer, nith, wyres a chefnither hwyliog a chariadus, ac ry’n ni’n meddwl a siarad amdani bob dydd.

“Ni fyddwn yn gallu maddau i’r gyrrwr wnaeth ladd Ellie. Ry’n ni’n credu y dylai’r gyrrwr fod wedi cael cyfnod hirach yn y carchar. Mae’r ddedfryd yn sarhaus i ni fel teulu."

Ychwanegodd y teulu: “Rydym ni wedi colli ein bywydau ni ac ni fydd byth modd i ni lenwi’r darn jig-so hwnnw. Ry’n ni’n gobeithio y bydd y datganiad hwn yn gwneud i yrwyr ifanc fod yn fwy gofalus.

“Mae ein bywydau wedi chwalu am byth.”

Y Byd ar Bedwar: Y Ffordd Ymlaen, nos Lun am 20:00 ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.

Lluniau: Y Byd ar Bedwar

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.