Newyddion S4C

David Hasselhoff yn cefnogi ymgyrch leol i brynu diffibriliwr yng Nghaerdydd

04/07/2021

David Hasselhoff yn cefnogi ymgyrch leol i brynu diffibriliwr yng Nghaerdydd

Mae un o sêr Hollywood wedi cefnogi ymgyrch gymunedol yng Nghaerdydd i brynu diffibriliwr.

Mae David Hasselhoff yn annog pobl Pontprennau i gefnogi'r ymgyrch er mwyn "achub bywydau".

Mewn fideo arbennig, mae'r actor, sy'n adnabyddus am ei rolau yng nghyfresi fel Baywatch a Knight Rider, yn dweud:

"Gall un Hoff wneud newid. Pontprennau, rydych chi angen diffibriliwr cyfleus. Rydych angen diffibriliwr cyfleus er mwyn achub bywydau.

"Felly, cerwch i gael diffibriliwr, rhowch o mewn lle cyfleus ble mae pawb yn gwybod amdano. Gadewch i bobl wybod ble mae o a gallwch chi achub bywyd rhywun. Gallwch achub bywyd rhywun - pa mor cŵl yw hynny? Hoff off."

Mae ymgyrch 'I Heart Pontprennau' bellach wedi casglu'n agos at eu targed o £1,295, gyda gobaith y bydd neges 'The Hoff' yn rhoi hwb pellach i'w hapêl.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.