Y Brenin i ymweld â Chaerdydd i nodi dathliadau 25 mlynedd o'r Senedd
Fe fydd y Brenin Charles a'r Frenhines yn ymweld â Chaerdydd ar gyfer dathliadau 25 oed y Senedd ddydd Iau.
Bydd y Brenin yn annerch Aelodau o’r Senedd yn y Siambr ac mae disgwyl y bydd areithiau gan y Llywydd, y Prif Weinidog ac arweinwyr y pleidiau gwleidyddol.
Ymysg y rhai fydd yno i groesawu'r ddau, fe fydd disgyblion ysgol o bob cwr o Gymru.
Fe fydd telynores swyddogol y Brenin hefyd yn perfformio.
Dyma fydd perfformiad cyntaf Mared Pugh-Evans ers iddi gael ei phenodi i'r swydd.
Bydd cerdd a gyfansoddwyd gan aelod o staff y Senedd, Aron Pritchard i ddathlu agor Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1999, yn cael ei darllen.
Yna bydd cerdd newydd gan Aron i nodi 25 mlynedd o fodolaeth y Senedd yn cael ei darllen.
Bydd pobl sydd wedi cyfrannu at lwyddiannau'r Senedd ymhlith y rhai sydd wedi’u gwahodd i'r digwyddiad ddydd Iau.
Mae'r rhain yn cynnwys pobl sydd wedi bod yn rhan o waith pwyllgorau’r Senedd, wedi dechrau deiseb a arweiniodd at bolisïau newydd, neu wedi ymgyrchu i sicrhau newid i Gymru.
Bydd perfformiad hefyd gan Gôr Amdani Blant Cymru, sy’n cynnwys ysgolion cynradd ledled Cymru, a bydd tusw o flodau’n cael ei gyflwyno i’r Frenhines gan Celyn Matthews-Williams, sy’n 10 oed ac o Lanelli, ac yn Bencampwr Cymunedol Covid.