Newyddion S4C

Teulu yn galw am gyfyngiadau ar yrwyr ifanc wedi marwolaeth eu mab

Y Byd ar Bedwar 08/07/2024

Teulu yn galw am gyfyngiadau ar yrwyr ifanc wedi marwolaeth eu mab

Mae teulu o Rondda Cynon Taf yn galw am gyflwyno cyfyngiadau ar yrwyr ifanc wedi i’w mab gael ei ladd mewn damwain car.

Fe fuodd Callum Griffiths oedd yn 19 farw ynghyd â dau arall mewn gwrthdrawiad yng Nghoedelái fis Rhagfyr y llynedd.

Fe fyddai’r cyfyngiadau newydd yn gallu cynnwys gwaharddiad ar gario teithwyr dan 25 oed yn y car a chyfyngiadau ar yrru yn y nos.

“Nes i fyth ddychmygu na fyddai Callum yn dychwelyd y noson honno”, meddai Natalie Griffiths, mam Callum, wrth raglen Y Byd ar Bedwar.

"Mae'n rhaid i'r gyfraith newid fel nad yw pobl ifanc yn colli eu bywydau ac yn cael eu hanghofio."

Ers y ddamwain, maen nhw wedi ymuno â grŵp o deuluoedd sy’n ymgyrchu dros Drwyddedau Gyrru Graddedig ar gyfer gyrwyr newydd dan 25 oed.

“Gallai’r trwyddedau yma wneud i bobl ifanc feddwl cyn gwneud penderfyniadau, rhoi mwy o ymwybyddiaeth a mwy o brofiad tu ôl i’r olwyn," meddai Natalie Griffiths.

Mae cyfyngiadau eisoes mewn lle mewn gwledydd fel Canada a Seland Newydd, a nifer yn eu gweld yn llwyddiant wrth arbed damweiniau ymysg pobl ifanc.

“Mae Callum wedi profi’r golled fwyaf i’w ryddid drwy golli ei fywyd. Bwriad y cyfyngiadau yw rhoi rhyddid i bobl ifanc yn y pendraw drwy eu cadw’n saff.”

Image
Natalie Griffiths
Natalie Griffiths, mam Callum.

'Gwên oedd yn goleuo pob ystafell'

Roedd Callum yn bencampwr byd cic-bocsio, yn farbwr talentog ac yn fachgen cymdeithasol a phoblogaidd iawn.

Yn ôl ei fam, roedd ganddo “bersonoliaeth heintus a gwên oedd yn goleuo pob ystafell".

“Roedd e’n fachgen da. Dy’n ni’n methu gwneud atgofion newydd gyda Callum, a ma’ hynny mor anodd," meddai.

Mae cronfa er cof am Callum wedi codi dros £11,000 i elusen 2Wish Cymru, sydd wedi bod yn gefn mawr i’w deulu a’i ffrindiau yn eu galar.

“Mae’r amser hebddo wedi bod yn anodd iawn a dyw’r boen hynny fyth mynd i fynd,” meddai Shane, ffrind gorau Callum. “Ry’n ni’n gweld lluniau ohono ar ein ffonau drwy’r amser.”

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae tystiolaeth bod trwyddedau fel hyn yn gallu lleihau damweiniau ymysg pobl ifanc, ond bod y maes yma heb ei ddatganoli i Gymru.

Fe wnaeth Adran Drafnidiaeth Llywodraeth San Steffan gomisiynu ymchwil i gefnogi gyrwyr newydd bedair blynedd nôl. Mewn ymateb i’r galwadau diweddaraf, fe ddywedon nhw ei bod hi’n rhy gynnar i’r llywodraeth newydd wneud sylw ar y mater.   

Y Byd ar Bedwar: Y Ffordd Ymlaen, nos Lun am 8 ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.