Cyrchfan gwyliau yng Nghymru ymhlith y gorau yn y DU medd arolwg
Mae cyrchfan gwyliau yng Nghymru wedi ei enwi fel un o’r goreuon yn y DU yn ôl cylchgrawn Which?.
Mewn arolwg o 1,700 o bobl enwyd Bluestone yn Sir Benfro yn gydradd drydydd mewn arolwg o brofiadau ymwelwyr dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Gofynnwyd i’r ymwelwyr roi eu barn ar draws 11 o ffactorau gan gynnwys safon y llety, gwasanaeth cwsmeriaid, glendid, cyfleusterau, gweithgareddau a gwerth am arian.
Yna dyfarnwyd sgôr cyffredinol yn seiliedig ar foddhad cyffredinol a thebygolrwydd i argymell.
Dyfarnwyd sgôr o 77% i Bluestone ar y cyd gyda John Fowler Holiday Parks yn ne orllewin Lloegr.
Fe ddaeth Potters Resorts o ddwyrain Lloegr ar frig y rhestr gyda sgôr o 87%.
Dywedodd dirprwy olygydd Which? Travel Naomi Leach: “Mae parciau gwyliau wedi bod yn un o’r prif bethau sydd wedi bod yn cynnal y diwydiant gwyliau ym Mhrydain ers degawdau.
"Ond gyda chymaint o opsiynau i ddewis ohonynt dyw hi ddim bob amser yn hawdd gwybod pa un fydd yn gweddu’n iawn i’ch teulu.
“Mae ein harolwg yn dangos ei bod yn werth edrych y tu hwnt i’r enwau mwyaf adnabyddus, gyda chyrchfannau gwyliau llai ac annibynnol yn cynnig gwerth rhagorol am arian, gwasanaeth cwsmeriaid gwych a digon o adloniant ar y safle.”