
Y Prif Weinidog newydd i ymweld â Chymru
Fe fydd y Prif Weinidog newydd yn ymweld â Chymru ddydd Llun fel rhan o wibdaith i’r cenhedloedd datganoledig.
Fe fydd Keir Starmer yn ymweld â Chymru a Gogledd Iwerddon ddydd Llun yn dilyn ei ymweliad â’r Alban ddydd Sul.
Dywedodd fod gan Gymru "botensial enfawr" a'i fod yn bwriadu gweithio'n agos gyda Phrif Weinidog Cymru, Vaughan Gething i wneud "newid go iawn" i fywydau pobl.
“Gan weithio yn agos gyda Llywodraeth Cymru a Vaughan Gething, bydd y llywodraeth yn gosod pobl a chymunedau Cymru yn gyntaf wrth i ni symud tuag at ddegawd o adnewyddiad cenedlaethol.
“Mae hynny’n golygu troi’r dudalen ar flynyddoedd o galedi economaidd, tuag at ffyniant gwirioneddol gyffredin i bobl, fel eu bod yn gweld ac yn teimlo newid go iawn yn eu bywydau.”
Mae Syr Starmer wedi addo “ailosod” perthynas Llywodraeth y DU gyda’r cenhedloedd datganoledig “yn syth”.
Dywedodd mai “parch” fyddai ei arwyddair wrth ymweld â llywodraethau'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.
Yn yr Alban dywedodd ei fod eisiau troi “anghytuno i mewn i gydweithio” gyda’r SNP yn Holyrood.
“Mae pobl ar draws y Deyrnas Unedig wedi eu rhwymo ynghyd gan werthoedd cyffredin,” meddai.
“Gwerthoedd sylfaenol gan gynnwys parch, gwasanaeth a chymuned sy’n ein diffinio fel cenedl arbennig."
Yn sicr fe fydd sefyllfa gwaith dur Tata ym Mhort Talbot ymhlith y materion fydd dan sylw yng Nghymru.
Cafodd un o'r ffwrneisi yn y gwaith dur ei chau ddydd Gwener diwethaf ac mae disgwyl i un arall gau ym mis Medi gan olygu colli 2,800 o swyddi.
Ddydd Sul dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes Jonathan Reynolds, er bod y llywodraeth mewn trafodaethau gyda Tata, nad oedd yn gallu sicrhau arbed swyddi yng ngwaith Tata ym Mhort Talbot.

Cyfarfod
Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, a charfan newydd o ASau y Blaid wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn am gyfarfod i drafod materion Cymreig allweddol.
Yn y llythyr dywedodd Mr ap Iorwerth wrth Keir Starmer mai Plaid Cymru yw’r “wrthblaid swyddogol Gymreig yn San Steffan” wrth iddo ofyn am gyfarfod.
Dywedodd Mr ap Iorwerth: “Ni ellir ailosod y berthynas rhwng Llywodraethau’r DU a Chymru oni bai bod cynrychiolwyr etholedig Cymru yn cael eu parchu."
Fe fydd arweinydd Mr ap Iorwerth yn ymuno â phedwar aelod seneddol y blaid yn San Steffan brynhawn dydd Llun lle bydd Ann Davies, Ben Lake, Llinos Medi a Liz Saville Roberts yn amlinellu blaenoriaethau Plaid Cymru.