Cyhuddo dyn a dynes o lofruddiaeth ar ôl marwolaeth merch 14 oed
Mae dyn a dynes wedi’u cyhuddo o lofruddiaeth ar ôl marwolaeth merch 14 oed.
Cafodd yr heddlu a pharafeddygon eu galw i gyfeiriad yn Geneva Road, Darlington toc wedi 23:00 ddydd Gwener.
Roedd y ferch wedi marw yn y fan a’r lle, meddai Heddlu Durham.
Mae Simon Vickers a Sarah Hall, y ddau o Geneva Road, Darlington, wedi’u cyhuddo o lofruddiaeth a byddan nhw’n ymddangos yn Llys Ynadon Newton Aycliffe ddydd Llun.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Craig Rudd: “Mae’r digwyddiad hwn wedi arwain at farwolaeth drasig merch ifanc, ac mae ein meddyliau gyda’i theulu a’i ffrindiau.
“Hoffwn ddiolch i’r gymuned leol am eu hamynedd a’u cydweithrediad tra ein bod ni’n ymchwilio.
“Gallaf gynnig sicrwydd i drigolion ein bod yn credu mai digwyddiad ar ei ben ei hun oedd hwn.”