Newyddion S4C

Etholiadau Ffrainc: Disgwyl i'r chwith ennill y mwyaf o seddi

Etholiadau Ffrainc: Disgwyl i'r chwith ennill y mwyaf o seddi

Mae'r blychau pleidleisio wedi cau wrth i Ffrainc bleidleisio yn un o’i hetholiadau mwyaf arwyddocaol ers blynyddoedd ddydd Sul.

Roedd yr asgell dde yn gobeithio am fuddugoliaeth hanesyddol ond mae arolwg barn wrth i bobl adael y gorsafoedd pleidleisio yn awgrymu nad yw'r chwith na'r dde yn agos at fwyafrif.

Mae'n rhagweld rhwng 180 a 215 o seddi ar gyfer cynghrair Jean-Luc Melenchon ar y chwith, a rhwng 150 a 180 o seddi ar gyfer cynghrair Ensemble yr Arlywydd Emmanuel Macron.

Ac mae'n ymddangos y bydd le Rassemblement National (RN) Marine Le Pen yn dod yn 3ydd gan ennill rhwng 120 a 150 o seddi, yn ôl y rhagolygon cynnar.

Fe wnaeth Jean-Luc Melenchon draddodi araith yn fuan ar ôl i’r blychau pleidleisio gau, gan alw’r canlyniadau yn “rhyddhad aruthrol i fwyafrif o bobl ein gwlad.”

Melenchon yw aelod amlycaf y gynghrair NFP adain chwith, a gydlynodd gyda bloc Ensemble Emmanuel Macron i gynyddu eu siawns o fuddugoliaeth gyfunol yn y bleidlais yn erbyn y dde.

Canlyniad

Nos Sul roedd gwrthdaro wedi rhwng protestwyr a'r heddlu ger Place de la République ym Mharis.

Roedd disgwyl protestiadau ar draws Ffrainc os oedd plaid adain dde Ressemblement National yn perfformio yn dda. 

Roedd diogelwch eisoes yn dynn ac erbyn hyn mae 30,000 o heddlu wedi cael eu defnyddio am gyfnod o densiwn gwleidyddol uwch, ac mae protest arfaethedig y tu allan i’r Cynulliad Cenedlaethol nos Sul wedi’i gwahardd.

Dyma oedd y tro cyntaf i Rali Genedlaethol Marine Le Pen a Jordan Bardella gael siawns realistig o redeg y llywodraeth a chymryd rheolaeth dros y Cynulliad Cenedlaethol.

Ond yn dilyn buddugoliaeth rownd gyntaf yr RN mewn etholiadau seneddol wythnos yn ôl, fe wnaeth cannoedd o ymgeiswyr sy’n cystadlu gyda nhw dynnu nôl yn yr ail rownd er mwyn rhoi gwell cyfle i eraill drechu’r asgell dde.

Fe ddechreuodd y pleidleisio yn Ffrainc am 08:00 fore dydd Sul eu hamser nhw, a chau am 20.00.

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.