Newyddion S4C

Rhai bandiau yn tynnu allan o ŵyl ym Mlaenau Ffestiniog oherwydd ‘diffyg cynrychiolaeth fenywaidd’

06/07/2024
Blaenau Ffestiniog

Mae rhai bandiau wedi dweud na fyddwn nhw’n cymryd rhan mewn gŵyl ym Mlaenau Ffestiniog ddydd Sadwrn oherwydd diffyg bandiau sy’n cynnwys merched.

Dywedodd tri band - Mellt, Maes Parcio a Ffenest - eu bod nhw bellach ddim yn cymryd rhan yn yr ŵyl ddydd Sadwrn, a fydd yn mynd yn ei flaen meddai'r trefnwyr.

Roedd saith band arall yn cael eu hysbysebu fel rhan o’r ŵyl yng Nghlwb Rygbi Bro Ffestiniog, gan gynnwys Das Koolies, Dienw a Cocaine Yoga.

Mae Gŵyl Car Gwyllt wedi dweud eu bod nhw'n “cydnabod diffyg cynrychiolaeth”.

Mewn datganiad i Newyddion S4C dywedodd yr ŵyl: "Roedd gennym ni lein up gwych ar gyfer gŵyl penwythnos gyda phedwar grŵp gyda merched ynddynt.

"Oherwydd diffyg ariannu a chostau wedi cyrraedd £17,000, roedd rhaid lleihau'r ŵyl, a digwydd bod, roedd y bandiau gyda merched methu chwarae ar y dydd Sadwrn.

"Mae Adwaith, HMS Morris, Chroma, Tara Bandito, Estella, a llawer mwy wedi chwarae gyda ni dros y blynyddoedd.

"Bechod oedd byrder gwybodaeth y bandiau."

'Ymrwymiad'

Mewn datganiad dywedodd band Ffenest: “Da ni wedi dod i'r penderfyniad i dynnu'n ôl o ŵyl Car Gwyllt yfory oherwydd diffyg cynrychiolaeth benywaidd ar y lineup.

“Da ni'n gobeithio y bydd hyn yn amlygu pwysigrwydd amrywiaeth, gan dynnu sylw at yr angen am arferion mwy cynhwysol. 

“Mae'r band eisiau pwysleisio ein ymrwymiad i gefnogi artistiaid o bob cefndir, ac yn annog trefnwyr gwyliau i ailystyried eu dewisiadau lineup, gan hyrwyddo diwydiant tecach a mwy cytbwys.

“Mae na gymaint mwy i'r sîn yng Nghymru na just dynion.

“Hoffem ddiolch yn fawr i'r trefnwyr am y cynnig i chwarae, a dymuno'r gorau i'r artistiaid eraill ac i bawb fydd yn mynychu.”

‘Siom’

Dywedodd band Maes Parcio mewn datganiad: “Fel band, dani'n canu caneuon am y byd, caneuon am fywyd a caneuon am newid. 

“Dani di bod yn fand am 6 blwyddyn rŵan a di bod yn lwcus i gael ein gwahodd i sawl gŵyl  a gig ar hyd y ffordd.

“Ma'i di bod yn anhygoel gweld sîn roc Gymraeg yn datblygu dros y cyfnod yna.

“Ond mae o'n siom fod rhai petha heb ddatblygu digon. 

“Ma hi'n bwysig bod ni fel Cymry yn rhoi llwyfan i bob matha o fandia, boed hynna'n rhyw, tras neu rywiaeth. 

“Ma'r sîn yma yn agored i unrhyw un. Mae hyn angen newid.

“Oherwydd hyn - gyda phob parch i'n chwiorydd yn y sîn - ni allwn gymryd rhan mewn gŵyl sydd, pan mae arian yn brin, yn gadael artistiaid benywaidd allan yn gyntaf. 

“Yn anffodus, ni fyddwn yn cymryd rhan yng Ngŵyl Car Gwyllt yfory.”

Dywedodd band Mellt: “Mae ein sîn yng Nghymru yn fwy na bois a gitars. Ni'n gobeithio fe wneith gwyliau gymryd sylw o hyn.

“Ni fyddwn yn chwarae yng Ngŵyl Car Gwyllt fory. Diolch i'r trefnwyr am y gwahoddiad i chwarae.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.