Y Prif Weinidog newydd am ymweld â Chymru
Y Prif Weinidog newydd am ymweld â Chymru
Bydd y Prif Weinidog newydd Keir Starmer yn cychwyn ar wibdaith yfory i ymweld â phob un o lywodraethau y DU gan gynnwys Cymru.
Yn ei gynhadledd gyntaf i'r wasg dywedodd y bydd yn ymweld â phedair llywodraeth y Deyrnas Unedig ar ei daith.
Mae disgwyl iddo gwrdd â Phrif Weinidog yr Alban, John Swinney, ddydd Sul ac yna ymweld â Stormont a Chaerdydd ddydd Llun.
"Yn gyntaf i'r Alban, yna i Ogledd Iwerddon, yna i Gymru ac yna yn ôl i Loegr," meddai gan ychwanegu mai'r bwriad yw siarad â phrif weinidog bob gwlad.
Dywedodd Keir Starmer ei fod am sefydlu ffordd o weithio ar draws y DU "fydd yn wahanol i'r hyn rydyn ni wedi'i gael yn y blynyddoedd diwethaf" ac y bydd yn "cydnabod cyfraniad pob un o'r pedair cenedl".
Ychwanegodd y byddai hefyd yn cynnal cyfarfodydd gydag arweinwyr "rhanbarthol" Lloegr, ac yn gweithio yn drawsbleidiol gyda nhw.
'Llwyfan rhyngwladol'
Bydd angen i lywodraeth newydd y DU “symud yn gyflym” wrth i Keir Starmer gwrdd â’i gabinet newydd heddiw yn ôl un o’i gynghorwyr pennaf.
Dywedodd Pat McFadden, sydd wedi ei benodi i swydd heb bortffolio yn y cabinet, y bydd y Cabinet yn cyfarfod ddydd Sadwrn.
Dywedodd wrth Radio 4 fod digwyddiadau mawr ar y llwyfan rhyngwladol yr wythnos nesaf ac nad oedd amser i laesu dwylo.
Byddai’n rhaid i Syr Keir ddyrannu cyfrifoldebau’n gyflym a “rhoi gorchmynion i’w Gabinet newydd ac yna mae digwyddiadau rhyngwladol mawr i ddod”.
“Mae gennym ni uwchgynhadledd Nato'r wythnos nesaf,” meddai Pat McFadden, Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn.
“Dyna fydd ei foment gyntaf ar y llwyfan rhyngwladol.
“A thra ei fod yn gwneud hynny, bydd eisiau i’w Gabinet newydd fwrw ymlaen â phethau yn weddol gyflym.”
Inline Tweet: https://twitter.com/JoStevensLabour/status/1809526528524304411
‘Adnewyddu’
Penododd Keir Starmer wleidyddion i’w gabinet cyntaf ddydd Gwener a siarad â nifer o arweiniwyd ledled y byd gan gynnwys Arlywydd yr Unol Daleithiau Joe Biden.
Cadarnhaodd y Prif Weinidog mai Rachel Reeves yw Canghellor benywaidd cyntaf Prydain, Yvette Cooper yn Ysgrifennydd Cartref a David Lammy yn Ysgrifennydd Tramor.
Cafodd Jo Stevens, AS Dwyrain Caerdydd, ei phenodi i swydd Ysgrifennydd Cymru.
Yn ei araith gyntaf y tu allan i 10, Stryd Downing, dywedodd Keir Starmer y byddai ei lywodraeth "yn trin pob un person yn y wlad gyda pharch."
“Mae ein gwlad wedi pleidleisio yn gadarn o blaid newid, am adnewyddu cenedlaethol, a dychwelyd gwleidyddiaeth i wasanaethu'r cyhoedd.”
Pwysleisiodd yr angen am newid, gan ddweud :"Pedair cenedl yn sefyll gyda'i gilydd fel rydan ni wedi gwneud mor aml yn y gorffennol, yn wynebu her byd ansicr, ac wedi ymrwymo i ail-adeiladu amyneddgar."
‘Llongyfarch’
Mae buddugoliaeth Keir Starmer wedi ei groesawu gan Brif Weinidog Cymru, Vaughan Gething.
Dywedodd: “Rwy’n llongyfarch Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ar ffurfio llywodraeth newydd.
“Mae hwn yn gyfle mawr i ailosod ein perthynas a dechrau cyfnod newydd o bartneriaeth, gyda dwy lywodraeth yn cydweithio ar weledigaeth a rennir ar gyfer dyfodol Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau’n gyson y dylai Llywodraeth y DU weithredu i hybu Cymru gryfach mewn Teyrnas Unedig decach.
“Mae mandad Llywodraeth newydd y DU yn sail gadarn ar gyfer y newid hwnnw. Gyda dwy lywodraeth yn cydweithio, gallwn helpu mwy o bobl i gynllunio dyfodol sicr ac uchelgeisiol yng Nghymru."