Dynes yn ei 70au wedi marw wedi gwrthdrawiad ym Mae Colwyn
Mae dynes yn ei 70au wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad un cerbyd ym Mae Colwyn.
Fe gafodd Heddlu Gogledd Cymru wybod am y gwrthdrawiad a ddigwyddodd ar Ffordd Conwy, toc wedi 13.00 ddydd Mercher.
Fan Peugeot lliw brown oedd yn y gwrthdrawiad.
Fe gafodd y ddynes, oedd yn teithio yn y cerbyd, ei chludo i Ysbyty Glan Clwyd gan yr ambiwlans awyr.
Bu farw’r ddynes ddiwrnod yn ddiweddarach wedi iddi ddioddef anafiadau difrifol.
Mae’r crwner wedi cael gwybod am ei marwolaeth, medd Heddlu Gogledd Cymru.
Dywedodd y Rhingyll Emlyn Hughes o’r Uned Plismona’r Ffyrdd bod y llu yn meddwl am deulu a ffrindiau’r ddynes yn ystod y “cyfnod anodd hwn.”
Fe gafodd gyrrwr y cerbyd – dyn yn ei 70au – ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd mewn ambiwlans wedi’r gwrthdrawiad.
Mae’n parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr sefydlog.
Dywedodd y Rhingyll Emlyn Hughes bod ymchwiliad yn cael ei gynnal a’i fod yn apelio ar lygad dystion, neu unrhyw un sydd â lluniau dashcam i gysylltu â’r llu ar unwaith gan ddyfynnu’r cyfeirnod 24000583842.