Newyddion S4C

Carcharu dyn o Sir Gaerfyrddin am 11 mlynedd wedi iddo ofyn i bobl roi eiddo ar dân

06/07/2024
Michael Arundel

Mae dyn o Sir Gaerfyrddin a wnaeth gynnig talu person arall  i roi tŷ a char ar dân wedi ei garcharu am 11 mlynedd. 

Roedd Michael Arundel, 34 oed o bentref Tycroes, wedi defnyddio ap o’r enw Telegram er mwyn gofyn a fyddai rhywun yn cyflawni'r drosedd ym mis Chwefror ac Ebrill eleni. 

Roedd ei neges wedi’i gyhoeddi ar yr ap i gynulleidfa o dros 1,000 o bobl. 

Pan gafodd Arundel ei arestio gan Heddlu Dyfed-Powys roedd ganddo gocên gwerth £62,500 yn ei feddiant. 

Daeth i sylw'r heddlu wedi i gar gael ei roi ar dân ar ffordd Mynyddbach, lle roedd yn byw , ar 28 Chwefror, 2024. 

Dywedodd llygad dystion bod nhw wedi gweld dyn yn taflu rhywbeth tuag at gar Audi lliw du cyn iddo ffrwydro. Roedd perchennog y car wedi dilyn y dyn, gan ddweud ei fod yn gwybod fod ganddo gysylltiad a Mr Arundel.

Daeth Heddlu Dyfed-Powys o hyd i negeseuon ar ffon Mr Arundel yn ddiweddarach oedd yn dangos ei fod ef wedi gofyn pobl ar yr ap Telegram i roi’r car ar dân, gan gynnig £200 i ddechrau, ac yna £300 yn ddiweddarach. 

“Ydy unrhyw un am wneud ychydig o bres? Rhoi car ar dân yn Rhydaman. Peidiwch â gwastraffu fy amser dwi eisiau hyn gael ei wneud cyn gynted â phosib,” meddai un neges ar 28 Chwefror. 

Roedd Arundel hefyd wedi bygwth targedu unrhyw un fyddai'n cymryd ei arian heb gyflawni’r trosedd. 

Dedfryd

Cafodd negeseuon tebyg eu cyhoeddi  gan Arundel ar yr ap ar 26 Ebrill. Roedd yn gofyn a fyddai rhywun yn rhoi tŷ ar dân. 

“Dw i wedi talu gydag arian parod… Gwyliwch beth sydd yn digwydd heno,” meddai un o’i negeseuon. 

Fe gafodd yr ymosodiad hwnnw ei atal gan swyddogion Heddlu Dyfed-Powys. 

Fe gafodd Arundel ei arestio tri diwrnod yn ddiweddarach yn Llanelli. Roedd wedi ceisio dianc pan welodd yr heddlu. 

Plediodd yn euog i bum cyhuddiad  o gyflenwi cyffuriau dosbarth A, a dau gyhuddiad o annog troseddau. Cafodd dedfryd o 11 mlynedd yn y carchar yn Llys y goron Abertawe ddydd Gwener.

Mae hefyd wedi cael gorchymyn i beidio mynd yn agos i'r person roedd wedi ei dargedu am 20 mlynedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.