Capten Cymru yn gobeithio 'creu hanes' yn erbyn y Wallabies yn Awstralia
Mae Dewi Lake yn gobeithio “creu hanes” yn Awstralia ddydd Sadwrn wrth i dîm Cymru wynebu’r Wallabies yn y gyntaf o dair gem yn y wlad.
Bydd Cymru yn wynebu Awstralia am 10.45 BST yn Stadiwm Allianz yn Sydney.
Dyma fydd y tro cyntaf i Gymru chwarae yn erbyn Awstralia ers iddyn nhw eu trechu 40-6 yng Nghwpan Rygbi'r Byd ym mis Hydref 2023.
Dim ond unwaith y mae Cymru wedi ennill yn erbyn y Wallabies yn Awstralia, ac roedd hynny yn 1969. Ers hynny, mae nhw wedi colli 11 o weithiau yn olynol.
Ond mae capten Cymru Dewi Lake yn gobeithio sicrhau buddugoliaeth i Gymru am y tro cyntaf mewn degawdau.
“Ennill ydy ein nod bob tro rydyn ni’n camu i’r cae, a dyna fydd ein prif nod ddydd Sadwrn," meddai.
“Dyw Cymru heb ennill yma ers 1969 a ‘dyn ni’n ymwybodol fydd hi ddim yn gêm hawdd. Ond ‘dyn ni’n awyddus i chwarae ac yn hyderus yn ein gallu ni,” meddai.
Dyma fydd gêm gyntaf Cymru ar y daith.
Ar ôl chwarae Awstralia yn Sydney bydd Cymru yn eu herio eto ym Melbourne ar 13 Gorffennaf, cyn wynebu Queensland Reds chwe diwrnod yn ddiweddarach.
Tîm Cymru i wynebu Awstralia
Bydd Aaron Wainwright yn ennill ei 50fed cap rhyngwladol wrth iddo gamu i’r cae dydd Sadwrn.
Dyma’r tîm fydd yn wynebu’r Wallabies:
15. Liam Williams (Kubota Spears – 90 cap)
14. Josh Hathaway (Caerloyw – heb gap)
13. Owen Watkin (Gweilch – 39 cap)
12. Mason Grady (Caerdydd – 12 cap)
11. Rio Dyer (Dreigiau – 20 cap)
10. Ben Thomas (Caerdydd– 2 gap)
9. Ellis Bevan (Caerdydd – 1 cap)
1. Gareth Thomas (Gweilch – 31 cap)
2. Dewi Lake (Gweilch – 13 cap)
3. Archie Griffin (Caerfaddon – 1 cap)
4. Christ Tshiunza (Exeter Chiefs – 10 cap)
5. Dafydd Jenkins (Exeter Chiefs – 17 cap)
6. Taine Plumtree (Scarlets – 3 chap)
7. Tommy Reffell (Leicester Tigers – 18 cap)
8. Aaron Wainwright (Dreigiau – 49 cap)
Eilyddion
16. Evan Lloyd (Caerdydd – 3 chap)
17. Kemsley Mathias (Scarlets – 3 chap)
18. Harri O’Connor (Scarlets – 2 gap)
19. Cory Hill (Secom Rugguts – 32 cap)
20. James Botham (Caerdydd – 11 cap)
21. Kieran Hardy (Gweilch – 21 cap)
22. Sam Costelow (Scarlets – 13 cap)
23. Nick Tompkins (Saracens – 36 cap)
Llun: Asiantaeth Huw Evans