Newyddion S4C

Dedfryd oes ychwanegol i Lucy Letby am geisio llofruddio baban

05/07/2024
Lucy letby

Mae’r cyn nyrs Lucy Letby wedi derbyn dedfryd oes ychwanegol ar ôl cael ei chanfod yn euog o geisio llofruddio baban newydd-anedig.

Yn Llys y Goron Manceinion ddydd Mawrth, cafwyd Letby, 34 oed, yn euog o geisio llofruddio’r baban yn ystod shifft nos yn uned babanod newydd-anedig Ysbyty Countess of Chester fis Chwefror 2016.

Fis Awst y llynedd, cafodd ei dyfarnu’n euog gan reithgor gwahanol o ladd saith o fabanod a cheisio lladd chwe baban arall yn yr uned, rhwng Mehefin 2015 a Mehefin 2016.

Mae hi eisoes wedi derbyn 14 dedfryd oes am saith cyfrif o lofruddiaeth a saith cyfrif o geisio llofruddio, gan gynnwys dau ymgais i ladd un plentyn.

Cafodd achos ei gynnal eto ynglŷn ag un cyfrif yn ymwneud â merch, a’i henwir yn Blentyn K, wedi i’r rheithgor cyntaf beidio llwyddo â chyrraedd dyfarniad.

Wrth ddedfrydu dydd Gwener, cymerodd ail reithgor dair awr a hanner yn unig i ddod i'r casgliad bod Letby yn euog. 

Roedd Letby yn bresennol yn y llys, er ei bod wedi gwrthod mynychu yn ystod ei gwrandawiad dedfrydu fis Awst y llynedd.

Dyma’r 15fed dedfryd oes sydd wedi ei gyflwyno i Letby.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.