Rishi Sunak am gamu lawr fel arweinydd y Blaid Geidwadol
Rishi Sunak am gamu lawr fel arweinydd y Blaid Geidwadol
Mae Rishi Sunak wedi dweud y bydd yn camu lawr fel arweinydd y Blaid Geidwadol ar ôl i'r blaid golli 250 o seddi yn yr Etholiad Cyffredinol.
Fe wnaeth Mr Sunak y cyhoeddiad mewn araith tu allan i Downing Street fore Gwener.
"Yn dilyn y canlyniad hwn byddaf yn camu lawr fel arweinydd y blaid - nid yn syth, ond unwaith mae'r trefniadau ffurfiol ar gyfer dewis fy olynydd yn eu lle.
"Mae'n bwysig ar ôl 14 mlynedd o lywodraethu bod y Blaid Geidwadol yn dechrau ail adeiladu, ond hefyd yn bod yn wrthblaid effeithiol yn erbyn y llywodraeth newydd," meddai.
Ychwanegodd ei fod yn ymddiheuro i'r wlad ac yn cymryd cyfrifoldeb am ganlyniad trychinebus yr etholiad i'w blaid.
"Hoffwn i ddweud wrth y wlad bod yn ddrwg gen i.
"Dwi wedi rhoi'r cyfan i'r swydd yma, ond rydych chi wedi rhoi arwydd clir bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig angen newid. Ac eich barn chi yw'r unig un sydd yn cyfri.
"Dwi wedi clywed eich anfodlonrwydd, eich siom a dwi'n cymryd cyfrifoldeb am y canlyniad."
Roedd hi'n noson drychinebus i'r Ceidwadwyr yn yr Etholiad Cyffredinol, gyda rhai o enwau mawr y blaid fel Liz Truss, Jacob Rees-Mogg a Penny Mordaunt yn colli eu seddi.
Maen nhw wedi ennill 121 o seddi tra bod Y Blaid Lafur wedi ennill 412, gyda dwy sedd yn weddill i gyfri.
Syr Keir Starmer fydd prif weinidog newydd y DU wedi i'r Blaid Lafur gyrraedd y trothwy o 326 o seddi oedd eu hangen er mwyn cael buddugoliaeth.
Fe ddymunodd Mr Sunak pob lwc iddo yn ei swydd fel Prif Weinidog.
"Yn y swydd yma, bydd ei lwyddiannau yn llwyddiannau i ni i gyd, a dwi'n dymuno'n dda iddo ef a'i deulu.
"Beth bynnag oedd ein hanghydfodau yn ystod yr ymgyrch, mae'n ddyn da dwi'n ei barchu."