Cyrff 89 o fudwyr wedi eu canfod yng Nghefnfor Iwerydd
Mae 89 o gyrff mudwyr wedi eu canfod ger arfordir Mauritania yng ngorllewin Affrica.
Cafodd naw o bobl, gan gynnwys merch bump oed, eu hachub gan wylwyr y glannau ond mae nifer dal ar goll.
Dywedodd un person wnaeth oroesi wrth N'diago, gwasanaeth newyddion lleol ym Mauritania, bod y cwch pysgota wedi cychwyn o'r arfordir rhwng Senegal a Gambia gyda 170 o bobl ar ei bwrdd.
Fe wnaeth y cwch droi drosodd yn y dŵr oddi ar arfordir de gorllewinol Mauritania fore Gwener.
Mae'r wlad yn lleoliad i fudwyr gyrraedd Ewrop ac roedd miloedd o gychod wedi ceisio cyrraedd y cyfandir o Mauritania'r llynedd.
Fe ddywedodd llywodraeth Sbaen bod dros 40,000 o bobl wedi cyrraedd Ynysoedd Caneri'r wlad llynedd. Dyma'r lleoliad mwyaf cyffredin i'r mudwyr.