Llafur yn ennill yn yr Etholiad Cyffredinol
Llafur yn ennill yn yr Etholiad Cyffredinol
Syr Keir Starmer fydd prif weinidog newydd y DU wedi i'r Blaid Lafur gyrraedd y trothwy o 326 o seddi oedd ei angen am fuddugoliaeth yn yr Etholiad Cyffredinol.
Dywedodd yr arweinydd Llafur fod pobl ar hyd a lled y wlad "yn barod am newid."
Wrth annerch rali o flaen cefnogwyr ei blaid yn Llundain, dywedodd: "Rydym wedi gweud hyn.
“Heddiw rydyn ni’n dechrau’r bennod nesaf, yn dechrau ar y gwaith o newid, y genhadaeth o adnewyddu cenedlaethol ac yn dechrau ailadeiladu ein gwlad.”
Roedd Maer Llundain Sadiq Khan a chyn-arweinydd Llafur Neil Kinnock yn y dorf ynghyd â chefnogwyr yn cario arwyddion Llafur gyda’r gair “newid” ar faner Jac yr Undeb.
Dywedodd Rishi Sunak bod pleidleiswyr wedi lleisio "dyfarniad syber" ar ei blaid wedi 14 o flynyddoedd mewn grym.
Inline Tweet: https://twitter.com/Keir_Starmer/status/1809073043400184067
Yn ei araith wrth sicrhau mwyafrif yn ei etholaeth yn Richmond a Northallerton, derbyniodd Rishi Sunak fod y Ceidwadwyr wedi colli: “Mae’r Blaid Lafur wedi ennill yr Etholiad Cyffredinol ac rydw i wedi galw ar Syr Keir Starmer i’w longyfarch ar ei fuddugoliaeth.”
Ychwanegodd Mr Sunak: “Heddiw, bydd pŵer yn newid dwylo mewn modd heddychlon a threfnus gydag ewyllys da ar bob ochr.
“Ac mae’n rhywbeth a ddylai roi hyder i ni i gyd yn sefydlogrwydd a dyfodol ein gwlad.
“Mae pobol Prydain wedi cyflwyno rheithfarn sobreiddiol heno, mae llawer i’w ddysgu… a dwi’n cymryd cyfrifoldeb am y golled. I’r llu o ymgeiswyr Ceidwadol da, gweithgar a gollodd heno, er gwaethaf eu hymdrechion diflino, eu cofnodion lleol a’u cyflawniad, a’u hymroddiad i’w cymunedau. Mae'n ddrwg gennyf."
Roedd hi'n noson drychinebus i'r Ceidwadwyr, gyda rhai o enwau mawr y blaid fel Liz Truss, Jacob Rees-Mogg a Penny Mordaunt yn colli eu seddi.
Mae'r Ysgrifennydd Cymru presennol a thri o'i ragflaenwyr Ceidwadol wedi colli eu seddi Cymreig.
Roedd yr ysgrifennydd presennol David TC Davies wedi bod yn ei swydd ers 2022.
Fe gollodd Alun Cairns, a oedd yn Ysgrifennydd Cymru rhwng 2016 a 2019 ei sedd ym Mro Morgannwg, wedi i Kanishka Narayan o'r blaid Lafur sicrhau mwyafrif o 4,216.
Colli oedd hanes Simon Hart hefyd yn etholaeth Caerfyrddin, gydag yntau yn ysgrifennydd rhwng 2019 a 2022.
Ann Davies o Blaid Cymru oedd yn fuddugol, gan sicrhau mwyafrif 0 4,535 gan y blaid Lafur oedd yn ail.
Stephen Crabb oedd Ysgrifennydd Cymru rhwng 2014 a 2016, ac fe gollodd ei sedd yng Nghanol a De Sir Benfro wedi i Henry Tufnell o Lafur hawlio mwyafrif o 1,878.