Newyddion S4C

Arweinydd Plaid Cymru yn croesawu canlyniad 'hanesyddol'

Arweinydd Plaid Cymru yn croesawu canlyniad 'hanesyddol'

Mae arweinydd Plaid Cymru'n dweud bod canlyniadau'r Etholiad Cyffredinol wedi bod yn "hanesyddol" i'r blaid.

Fe lwyddon nhw i gipio etholaethau Ynys Môn a Chaerfyrddin gan y Ceidwadwyr, a dal eu gafael ar ddwy sedd arall.

Yn ogystal, gwelodd y blaid gynnydd sylweddol o 4.9% yn eu canran o'r bleidlais yng Nghymru i 14.8%

Llwyddodd Ben Lake i gadw sedd Ceredigion Preseli hefyd, ac fe fydd yn dychwelyd i San Steffan.

Fe fydd Liz Saville-Roberts hefyd yn dychwelyd i Lundain ar ôl ennill etholaeth newydd Dwyfor Meirionnydd i Blaid Cymru gyda dros 15,000 o fwyafrif.

Wrth siarad yng Nghaerfyrddin ddydd Gwener, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: "Mae hon wedi bod yn etholiad lle oedden ni'n gwybod fod gynnon ni neges glir a phositif, a mae'r canlyniad yn un hanesyddol." 

Doedd etholaeth Môn ddim wedi bod dan reolaeth y blaid yn San Steffan ers dyddiau Ieuan Wyn Jones yn 1997.

Fe gipiodd Llinos Medi y sedd gan Virginia Crosbie o'r blaid Geidwadol, gan sicrhau mwyafrif o 637. 

Derbyniodd Plaid Cymru 10,590 pleidlais, gyda'r Ceidwadwyr yn sicrhau 9,953 o bleidleisiau. 

Ieuan Môn Williams o'r Blaid Lafur oedd yn drydydd, gyda 7,619 o'r pleidleisiau.

Yng Nghaerfyrddin, enillodd Ann Davies o Blaid Cymru gyfanswm o 15,520 pleidlais, gyda Martha O'Neil o Llafur yn ail gyda 10,985 pleidlais a chyn-Ysgrifennydd Cymru a phrif chwip y blaid Geidwadol Simon Hart yn drydydd gyda 8,825 pleidlais. 

 

 

 

 


 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.