Newyddion S4C

Cyhuddo dyn o Abertawe o lofruddio ger Oxford Circus yn Llundain

Wales Online 03/07/2021
Oxford Circus

Bydd dyn o Abertawe yn ymddangos o flaen llys ddydd Sadwrn wedi ei gyhuddo o lofruddio dyn 60 oed.

Mae Tedi Fanta Hagos, 25, yn wynebu un cyhuddiad o lofruddio ac un cyhuddiad o fod ag arf yn ei feddiant.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ger Oxford Circus, Llundain, nos Iau ychydig cyn 20.00, yn dilyn adroddiadau bod rhywun wedi cael ei drywanu.

Bu farw'r dyn yn ddiweddarach yn yr ysbyty, meddai WalesOnline.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.