Newyddion S4C

Bywyd newydd i adeilad nodedig yng Ngwynedd

05/07/2024
Y Warws

Mae cynlluniau i roi bywyd newydd i hen adeilad Y Warws ym Meddgelert wedi eu cymeradwyo.

Mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi cymeradwyo cynlluniau ar gyfer wal ddringo a champfa yn yr adeilad oedd yn gwerthu offer a dillad mynydda, gwersylla ac awyr agored.

Yn Y Warws sefydlwyd y cwmni Gelert yn 1975 gan Alastair a Jane Langdon.

Yn 2013, prynwyd busnes Gelert gan Sports Direct International Group – cwmni nwyddau chwaraeon mwyaf y DU – sy’n eiddo i'r dyn busnes Mike Ashley.

Mae'r adeilad wedi bod yn wag ers tua saith mlynedd.

Mae pwyllgor cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri bellach wedi cytuno ar gynllun newydd ar gyfer yr adeilad gwag sydd ar lan Afon Colwyn ar gyrion y pentref.

Yn ôl yr ymgeisydd, Trystan Jones-Morris, fe allai'r datblygiad greu un swydd llawn amser a phedair swydd rhan amser.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.