Newyddion S4C

Dyn yn euog o gynllwynio i herwgipio, treisio a llofruddio Holly Willoughby

Gavin Plumb

Mae swyddog diogelwch wedi’i gael yn euog o gynllwynio i herwgipio, treisio a llofruddio’r gyflwynwraig deledu Holly Willoughby.

Roedd Gavin Plumb wedi casglu offer ar gyfer trais rhywiol yn erbyn cyn-gyflwynydd This Morning i gyflawni ei "ffantasi olaf".

Cafodd y dyn 37 oed o Harlow, Essex, ei arestio a’i gyhuddo ar ôl iddo ddatgelu ei gynlluniau ar-lein yn ddiarwybod i heddwas cudd yn yr Unol Daleithiau.

Roedd Plumb wedi gwadu’r cyhuddiadau o gymell llofruddiaeth, annog herwgipio ac annog trais rhywiol rhwng 2021 a 2023, ond fe'i cafwyd yn euog yn dilyn achos llys wyth diwrnod yn Llys y Goron Chelmsford.

Roedd yr amddiffynnydd wedi dweud wrth y llys ei fod yn “dorcalonnus” ac wedi “siomi a rhyfeddu” bod cynnwys ei sgyrsiau ar-lein ynghylch y cynllun honedig wedi eu datgelu.

Roedd Plumb wedi honni bod y sgyrsiau “tywyll” yn rhai yr oedd yn eu “difaru’n fawr”, ond roedd yn mynnu mai “ffantasi” oedd y cynllwyn honedig, ac nid un gwirioneddol.

Mewn lluniau camera corff a ddangoswyd yn y llys, gwelwyd swyddogion yr heddlu yn mynd i mewn i fflat Mr Plumb yn Harlow, Essex, ar 4 Hydref y llynedd.

Fe gafodd ei roi mewn gefynnau gan heddweision, gan ddweud: “Beth ydych chi’n siarad am? Plîs eglurwch beth sy’n mynd ymlaen.”

Eglurodd swyddog o’r llu ei fod yn cael ei arestio am gynllwynio i herwgipio Ms Willougbhy.

Yn y lluniau camera o’r diwrnod, dywedodd Plumb wrth swyddogion: “Wna i ddim dweud celwydd, mae hi yn ffantasi i mi.”

Fe wylodd yr amddiffynnydd yn y doc wrth iddo gael gwybod y byddai'n cael ei ddedfrydu ar 12 Gorffennaf.

Mae Holly Willoughby wedi canmol “dewrder” dioddefwyr blaenorol Gavin Plumb am siarad allan.

Diolchodd Ms Willoughby i’r heddwas cudd a oedd yn “deall y bygythiad oedd ar fin digwydd” i’w bywyd ac wedi helpu i rwystro ei gynllwyn.

Yn dilyn y dyfarniad dywedodd Ms Willoughby: “Fel merched ni ddylem gael ein gorfodi i deimlo’n anniogel yn ein bywydau bob dydd ac yn ein cartrefi ein hunain.

“Byddaf yn ddiolchgar am byth i’r heddwas cudd a ddeallodd y bygythiad, ac i heddluoedd y Metropolitan ac Essex am eu hymateb cyflym.

“Diolch i Wasanaeth Erlyn y Goron, y Gwir Anrhydeddus Mr Ustus Murray, Alison Morgan KC, aelodau’r rheithgor a phawb fu’n ymwneud â’r achos hwn am sicrhau bod cyfiawnder yn cael ei wneud ac na fydd y diffynnydd yn gallu niweidio rhagor o fenywod.

“Hoffwn hefyd ganmol dewrder ei ddioddefwyr blaenorol am siarad.

“Heb eu dewrder efallai na fyddai’r dyfarniad yma wedi bod yn bosibl.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.