Gwyliwch: Carcharu dyn o'r Rhondda am yrru'n beryglus wedi i rewgell gael ei thaflu o'i gerbyd
Gwyliwch: Carcharu dyn o'r Rhondda am yrru'n beryglus wedi i rewgell gael ei thaflu o'i gerbyd
Mae dyn o’r Rhondda wedi’i garcharu am yrru’n beryglus wedi i rewgell gael ei thaflu o’i gerbyd tuag at gerbyd yr heddlu.
Roedd cerbyd Heddlu De Cymru yn dilyn Daniel Symmons, 31 oed o Donypandy, yn ei fan Peugeot gwyn ar ddydd Sul, 8 Ebrill eleni, wedi i’r llu gael gwybod bod ganddo blâtiau rhifau ffug ar ei gerbyd.
Cafodd ei gerbyd ei weld y tu allan i westy’r Three Saints yn Llantrisant, ac yna'n teithio i gyfeiriad tir comin yn yr ardal.
Fe ddechreuodd Mr Symmons daflu gwrthrychau o’i fan, gan gynnwys sbaner fetel a photel o hylif, wedi i’r llu ddechrau i’w ddilyn.
Roedd person oedd yn teithio yn fan Mr Symmons wedi agor drysau cefn y cerbyd gan wthio rhewgell allan o'r fan.
Roedd cerbyd yr heddlu wedi osgoi cael ei daro gan y rhewgell.
Fe gafodd Mr Symmons ei ddedfrydu i 10 mis yn y carchar am yrru’n beryglus yn Llys y Goron Gaerdydd ddiwedd fis Mehefin.
Bydd yn rhaid iddo dreulio 5 mis o’i ddedfryd dan glo, a’r gweddill yn y gymuned.
Mae Mr Symmons bellach wedi’i atal rhag gyrru am 23 mis.