Newyddion S4C

Dyn 43 oed yn y ddalfa wedi i ddau gael eu trywanu yng Nghaerdydd

03/07/2024
clifton st.png

Mae dyn 43 oed yn parhau yn y ddalfa wedi i ddau berson gael eu trywanu yng Nghaerdydd ddydd Mawrth. 

Cafodd dau ddyn 29 oed eu hanafu yn ystod yr ymosodiad ar Stryd Clifton yn Y Rhath, ond maen nhw bellach wedi cael eu rhyddhau o'r ysbyty. 

Dywedodd yr Arolygydd ar gyfer Y Rhath a Cathays yn y brifddinas, Gerallt Hughes: "Yn ddealladwy, mae'r digwyddiad yma wedi achosi pryder o fewn y gymuned ac mae unrhyw ddigwyddiad yn ymwneud â chyllell yn un yn ormod. 

"Roedd swyddogion yn bresennol yn yr ardal am tua 21:00 neithiwr pan y cafodd galwad 999 ei derbyn yn adrodd am ddyn gyda chyllell.

"Cafodd y dyn ei ddilyn i Stryd Saphire lle cafodd ei arestio, ac fe wnaeth swyddogion eraill roi cymorth cyntaf i'r dioddefwyr.

"Yn ffodus, nid yw eu hanafiadau yn peryglu bywyd."

Mae Heddlu De Cymru yn awyddus i glywed am unrhyw un sydd â wybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2400219938.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.