Cyhoeddi rhestr fer Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn
Mae rhestr fer Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn wedi cael ei chyhoeddi.
Cafodd y rhestr ei chyhoeddi gan yr Eisteddfod Genedlaethol ar y cyd gyda BBC Radio Cymru nos Fercher.
Mae'r wobr, sy'n dathlu ei phen-blwydd yn ddeg oed eleni, yn dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg sydd i'w glywed yng Nghymru ar hyn o bryd.
Mae 10 albwm wedi cael eu henwebu am y wobr.
Bu panel o feirniaid sy’n rhan o’r diwydiant cerddoriaeth yn dewis a dethol eu hoff gynnyrch, gan bleidleisio am eu ffefrynnau ar ddiwedd y broses. Y beirniaid eleni oedd Gruffudd Jones, Tomos Jones, Gwenno Morgan, Keziah O' Hare, Mared Thomas ac Owain Williams.
Dyma'r rhestr llawn:
- Amrwd - Angharad Jenkins a Patrick Rimes
- Bolmynydd - Pys Melyn
- Caneuon Tyn yr Hendy - Meinir Gwilym
- Dim dwywaith - Mellt
- Galargan - The Gentle Good
- Llond Llaw - Los Blancos
- Mynd â’r tŷ am dro - Cowbois Rhos Botwnnog
- Sŵn o’r stafell arall - Hyll
- Swrealaeth - M-Digidol
- Ti ar dy ora’ pan ti’n canu - Gwilym
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar lwyfan y Pafiliwm am 15:00 ddydd Gwener, 9 Awst.