Newyddion S4C

Darganfod plentyn bach yng nghanol ffordd ar ôl iddo ddianc o feithrinfa

Meithrinfa Tiny Tots

Cafodd plentyn bach ei ddarganfod ynghanol y ffordd ar ôl iddo adael meithrinfa heb i un o'r gweithwyr yno sylwi.

Dau yrrwr wnaeth ei weld a hynny ar Ffordd Llanellen yn Llan-fwyst, Y Fenni tua 11:00 ar 27 Mehefin wedi iddo adael Meithrinfa Tiny Tots.

Y gred yw bod y bachgen rhwng 12 ac 18 mis.

Yn ôl un person oedd ddim am gael ei henwi roedd yn cerdded yng nghanol y ffordd.

Fe aeth un o'r gyrwyr â'r plentyn yn ôl i'r feithrinfa.

Nawr mae trafodaethau yn cael eu cynnal rhwng penaethiaid Cyngor Sir Fynwy, Arolygiaeth Gofal Cymru a’r feithrinfa “i atal digwyddiad tebyg rhag digwydd yn y dyfodol”.

Fe gadarnhaodd Cyngor Sir Fynwy bod yr awdurdod mewn trafodaethau gyda Meithrinfa Tiny Tots Llan-ffwyst yn y Fenni sy’n rhan o Wasanaethau Gofal Plant Tiny Tots yng Nghasnewydd.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor bod y feithrinfa wedi rhoi gwybod iddyn nhw am y digwyddiad.

“Gall Cyngor Sir Fynwy gadarnhau ein bod wedi derbyn gwybodaeth gan y feithrinfa ynglŷn â'r digwyddiad," meddai'r llefarydd.

“Mae staff Cyngor Sir Fynwy yn cynnal trafodaethau gyda’r feithrinfa ar hyn o bryd, ac mae trafodaethau ar y gweill i fynd i’r afael â’r mesurau sy’n cael eu rhoi ar waith i atal digwyddiad tebyg rhag digwydd yn y dyfodol.

“Bydd y cyngor hefyd yn parhau i gysylltu ag Arolygiaeth Gofal Cymru ar gyfer unrhyw ymchwiliadau sydd ar ddod.”

Penderfynodd Meithrinfa Tiny Tots Llan-fwyst i beidio rhoi sylwad.

'Camau priodol'

Dywedodd llefarydd ar ran Arolygiaeth Gofal Cymru, sy’n cofrestru, archwilio ac sydd â’r grym i gymryd camau i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau gan gynnwys meithrinfeydd, eu bod yn ymwybodol o’r digwyddiad.

“Rydym wedi cael gwybod am y sefyllfa ac wedi cymryd y camau priodol yn unol â’n polisïau a’n gweithdrefnau safonol. 

"Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda’r darparwr a Chyngor Sir Fynwy i sicrhau diogelwch yr holl blant sy’n defnyddio’r gwasanaeth.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.