Newyddion S4C

'Brwydr fawr ein hoes': Y cyflwynydd Steffan Powell yn pryderu am newid hinsawdd ers dod yn dad

Steffan Powell

Mae’r cyflwynydd Steffan Powell wedi dweud bod dod yn rhiant wedi gwneud iddo feddwl “o ddifri” am effeithiau newid hinsawdd. 

Yn dad i ddau, dywedodd ei fod yn pryderu na fydd ei blant – Joseff sy’n ddwy oed a Sadie sy’n ddeufis oed – yn mynd i gael y cyfle i brofi harddwch arfordiroedd Cymru fel yr oedd ef yn ei wneud yn fachgen ifanc. 

Yn wyneb cyfarwydd ar raglen S4C Pawb a’i Farn, yn ogystal â chyflwynydd y BBC, bydd Steffan Powell bellach yn cyflwyno cyfres newydd wrth iddo geisio deall yr “argyfwng” y mae arfordiroedd Cymru yn eu hwynebu. 

Bydd camerâu S4C yn dilyn y cyflwynydd ar daith o amgylch arfordir Cymru fel rhan o’r gyfres Colli Cymru i’r Môr, ac mi fydd y bennod gyntaf yn cael ei darlledu am 21.00 nos Fercher.

“Mae’r byd yn newid a dyw Cymru ddim yn eithriad,” esboniodd Mr Powell. 

“Mae ‘na argyfwng ar hyd yr arfordir - mae’n un o frwydrau mawr ein hoes.” 

Dywedodd fod ganddo ddiddordeb “yn y ffaith fod Cymru’n newid,” a hynny’n golygu fod posibilrwydd y bydd y genhedlaeth newydd “am weld Cymru wahanol i ni.”

“Pa fath o Gymru fydd e iddyn nhw? Mae un traeth oedd yn bwysig i mi pan ges i’n magu, ac ‘wy mo'yn bod fy mhlant i’n gallu mynd i’r un traeth a phrofi’r un peth a wnes i,” meddai.

'Argyfwng'

Bydd y cyflwynydd yn cwrdd â thrigolion ac arbenigwyr ar hyd a lled y wlad – gyda nifer o’r bobl hynny eisoes wedi profi effeithiau newid hinsawdd wrth iddyn nhw wynebu llifogydd, erydu arfordirol a stormydd yn eu hardal leol nhw. 

“Mae dros 234,000 o adeiladau ar hyd arfordir Cymru mewn perygl ar hyn o bryd.

“Newid hinsawdd mwy na thebyg fydd y stori newyddion fwya’ fydd yn cael ei thrafod am y blynyddoedd i ddod.

“Felly roedd cael cyfle i wneud prosiect oedd yn tapio mewn i rôl Cymru yn y darlun ar draws y byd o ddiddordeb mawr i mi” meddai Steffan Powell.

Bydd y cyflwynydd tywydd ac arbenigwr rhewlifoedd Steffan Griffiths hefyd yn ymuno â theithiau ymchwil uchelgeisiol i rewlifoedd Svalbard a Llen Iâ Yr Ynys Las.

Ei nod yw darganfod pam bod y newidiadau mawr sy’n digwydd yno yn effeithio’n uniongyrchol ar ddyfodol pobl yng Nghymru.

Ac mae Steffan Powell bellach yn gobeithio y bydd y gyfres newydd yn gwneud i bobl eraill feddwl o ddifri am effeithiau newid hinsawdd hefyd, gan eu hannog nhw i beidio ofni trafod hynny. 

“Mae rhai’n meddwl bod hi’n well i gredu nad oes problem yn hytrach nag edrych ar realiti’r peth, achos mae’r realiti’n gallu bod yn ofnus."

Bydd Colli Cymru i’r Môr yn cael ei darlledu ar S4C am 21:00, Nos Fercher, 3 Gorffennaf, ac fe fydd ar gael i'w gwylio ar S4C Clic a BBC iPlayer. 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.