Newyddion S4C

Ymgyrch i godi arian i ddyn ifanc o Fôn sydd ag anafiadau difrifol

Jack.png

Mae ffrindiau dyn ifanc o Fôn sydd yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol wedi digwyddiad ym mhentref Gaerwen yn codi arian ar gyfer ei deulu. 

Fe ddioddefodd Jack Thomas, 21, anafiadau difrifol ddydd Iau diwethaf, ac fe gafodd ei gludo mewn hofrennydd i ysbyty yn Stoke. 

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi eu galw am 09.11 ar 27 Mehefin i stryd Rhosdir, Gaerwen i ddigwyddiad yn ymwneud â cherbyd.

Roedd ambiwlans awyr hefyd wedi glanio yn y pentref.

Mae ymgyrch i godi arian ar gyfer ei deulu wedi cael ei sefydlu, gyda bron i £2,000 wedi ei gasglu hyd yn hyn. 

Mae'r ymgyrch yn nodi "nad yw difrifoldeb ei anafiadau yn hysbys eto, ac mae Jack yn parhau mewn gofal critigol.

"Mae ei deulu wrth ei ochr bob awr o'r dydd a fydd heb os,  yn rhoi straen ychwanegol arnyn nhw gyda chostau teithio a llety yn cynyddu yn ddyddiol a cholled enillion i Jack wrth iddo barhau i dderbyn triniaeth.

"Nid yw hon yn mynd i fod yn daith hawdd i Jack a'i deulu."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.