Andy Murray yn tynnu allan o senglau'r dynion yn Wimbledon cyn ei ymddeoliad
Mae Andy Murray wedi tynnu allan o gystadleuaeth senglau'r dynion yn Wimbledon, yn ei ymddangosiad olaf yn y bencampwriaeth tennis.
Mewn cyhoeddiad fore Mawrth, dywedodd yr Albanwr 37 oed y byddai’n cystadlu gyda’i frawd Jamie yng nghystadleuaeth parau’r dynion yn unig.
Bydd yr Albanwr, sydd wedi ennill pencampwriaeth senglau Wimbledon yn 2013 a 2016, yn ymddeol o’r gamp ar ddiwedd y tymor.
Roedd amheuon dros ei bresenoldeb yn SW19 wedi iddo dderbyn llawdriniaeth ar ei asgwrn cefn ddiwedd y mis diwethaf.
Daeth y driniaeth ar ôl iddo dynnu allan o gêm ym mhencampwriaeth Queen's Club yn Llundain lai na phythefnos yn ôl.
Mae Murray wedi dweud ei fod hefyd yn gobeithio cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd ym Mharis eleni, cyn dod â’i yrfa i ben.
Llun: AFP/Wotchit