Newyddion S4C

Teulu dyn a fu farw mewn gwrthdrawiad ger Wrecsam yn rhoi teyrnged iddo

Teyrnged

Mae teulu dyn a fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mronwylfa, Wrecsam wedi rhoi teyrnged iddo.

Roedd Paul Williams yn 43 oed ac yn byw yn ardal Penycae. 

Mewn datganiad drwy Heddlu'r Gogledd, dywedodd ei deulu: “Roedd Paul yn gymeriad go iawn, yn llawn bywyd a hwyl, yn gariadus, yn boblogaidd iawn a byddai ei wên yn goleuo unrhyw ystafell.

“Roedd yn dad balch i Macey, 10, ac Ezme, pedair. Roeddent wrth eu bodd yn treulio amser gyda'i gilydd, yn cael hwyl, yn mynd ar deithiau ac anturiaethau.

“Roedd yn fab cariadus i Liz a'r diweddar Phillip Vaughan Williams, brawd bach Lee, brawd yng nghyfraith hoffus Joanne ac yn cael ei adnabod fel “Ewythr direidus Paul” i Evan, Huw a Cadi."

Ychwanegodd y deyrnged: “Roedd yn mwynhau gweithio gyda beiciau modur, ceir a faniau gwersylla Volkswagen yn garej ei ffrindiau, roedd wrth ei fodd yn mynd ar wyliau, bwyta allan a chymdeithasu. 

“Roedd yn gwmni gwych, roedd ganddo lawer o ffrindiau oedd yn ei garu ac a fydd yn gweld ei eisiau’n fawr.

“Cafodd Paul ei gymryd oddi wrthym ni mor drasig. Ni all unrhyw eiriau ddisgrifio'r boen o'i golli.

“Rydyn ni wedi ein syfrdanu’n llwyr ac yn dorcalonnus o achos ein colled sydyn. Bydd colled fawr ar ei ôl gan bob un ohonom."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.