Ymchwiliad yn dilyn adroddiadau o graffiti hiliol yn Sir y Fflint
Mae Heddlu’r Gogledd yn ymchwilio ar ôl i graffiti hiliol gael ei baentio ar ddau adeilad a fan yn Sir y Fflint.
Cafodd swyddogion eu galw i Benarlâg ddydd Sadwrn 30 Mehefin yn dilyn adroddiadau o gasineb hiliol.
Cafodd dau ddigwyddiad eu hadrodd yn Wirral View, ac un arall ar The Ridgeway.
Dywedodd yr Arolygydd Wesley Williams: “Mae adroddiadau difrod troseddol o unrhyw natur yn cael eu cymryd o ddifrif ac yn cael eu hymchwilio’n drylwyr, ond ni fydd y rhai sy’n ymwneud â chasineb hiliol yn cael eu goddef yn ein cymuned o gwbl.
“Pe baech chi’n dyst, neu os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am unrhyw un o’r digwyddiadau hyn, rydyn ni’n gofyn i chi roi gwybod amdano cyn gynted â phosibl, naill ai drwy’r wefan, neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu’r cyfeirnod Q094853.”