Cyhuddo dynes ôl 'fideo rhyw mewn carchar'
30/06/2024
Fe fydd dynes yn ymddangos o flaen llys ar ôl i fideo gael ei gyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol oedd yn honni dangos aelod o staff carchar yn cael rhyw gyda charcharor.
Mae Linda De Sousa Abreu, 30, o Fulham, yn ne-orllewin Llundain, wedi’i chyhuddo o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus, meddai Heddlu Llundain.
Mae hi yn y ddalfa ac fe fydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Uxbridge ddydd Llun.
Dywedodd Heddlu’r Met eu bod wedi dechrau ymchwiliad ddydd Gwener ar ôl i swyddogion gael gwybod am fideo yr honnir iddo gael ei ffilmio y tu mewn i HMP Wandsworth.
Cafodd Linda De Sousa Abreu ei harestio ddydd Gwener a’i chyhuddo ddydd Sadwrn, medden nhw.