Amseru gwaith ffordd Aberaeron yn 'warthus'

Newyddion S4C 02/07/2021

Amseru gwaith ffordd Aberaeron yn 'warthus'

Mae'n "warthus" bod gwaith i greu mwy o le i gerddwyr yn Aberaeron yn digwydd ar ddechrau tymor yr haf.

Dyna farn rhai sy'n byw yno.

Yn ôl busnesau lleol, nid oes digon o drafod wedi bod, ac maen nhw'n poeni na fydd twristiaid yn dod i'r dref - ar gyfnod prysura'r flwyddyn.

“Ma' be sy'n mynd mlan yn Aberaeron ar y foment gyda pharcio bron a bod yn warthus ddweud y gwir wrthych chi,” meddai Iestyn Thomas, Perchennog Busnes yn y dref.

“Be ni di gweld bod lot o bobl lleol, sydd fel arfer yn dod fewn i'r dref yn y dydd a nos, so ni di gweld nhw ers sbel".

‘Ddim yn dod nôl’

Yn ôl Phill Davies, sy’n byw yn Aberaeron, mae twristiaid hefyd wedi eu heffeithio.

“Ma' un ffrind sy'n cadw llety tu allan i'r dref wedi dweud wrtha i fod y bobl sy' di bod yn aros gyda hi wedi dweud bo nhw di bo nhw’n mynd i mewn i Aberaeron unwaith, fod hi'n hunllef i gael parcio 'ma, a bo nhw ddim yn dod nôl".

Mewn ymateb dywedodd Cyngor Ceredigion eu bod yn creu lle ehangach a mwy hygyrch i bobl fynd o amgylch yr harbwr - er y bydd rhywfaint o aflonyddwch tra bod y gwaith yn bwrw ati.

Ychwanegodd y Cyngor bod y newidiadau yn ymateb i adborth trigolion i’r parthau diogel gafodd eu creu’r llynedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.