Dal dyn 46 mlynedd ar ôl iddo dreisio merch yng Nghaerdydd

Rhybudd: Fe allai cynnwys yr erthygl hon beri gofid.
Mae dyn wnaeth dreisio merch 11 oed yng Nghaerdydd yn y 1970au wedi cael ei ddal o’r diwedd – ond ni fydd yn mynd i’r carchar.
Mae’r dioddefwr wedi gwneud y penderfyniad dewr i siarad yn gyhoeddus am ei phrofiad brawychus am y tro cyntaf, a hynny mewn cyfweliad gydag ITV Cymru.
Ychydig wedi 20:00 ar nos Lun ym mis Tachwedd 1977, roedd merch 11 oed o'r enw Michelle yn cerdded adref yn ardal Tredelerch, Caerdydd.
Fel arfer byddai mam Michelle yn dod i'w chyfarfod, ond roedd ei brawd yn sâl ac felly fe gerddodd hi'r pum munud olaf ar ei phen ei hun.
“Roedd yna ddyn ar y palmant ac wrth i mi gerdded tuag ato, sylweddolais nad oedd yn symud allan o fy ffordd.
“O’r fan honno, fe newidiodd fy mywyd yn gyfan gwbl.”
Mae Michelle yn enw ffug sy’n cael ei ddefnyddio oherwydd rhesymau cyfreithiol ac i warchod hunaniaeth y dioddefwr.
Wrth i Michelle gerdded, stopiodd y dyn gan afael yn ei hysgwydd a dweud wrthi "ti’n dod gyda fi".
Fe aeth a hi i gefn garejys a’i threisio yn y tywyllwch.
Dywedodd ei hymosodwr wrth Michelle am aros yno a chyfrif i 50 cyn iddi symud. Ar ôl iddo adael ac ar ôl iddi gyfri fe redodd Michelle adref.
Gofynnodd mam Michelle iddi "ble wyt ti wedi bod?", a dywedodd wrthi beth oedd wedi digwydd. Ffoniodd ei mam yr heddlu ac aethpwyd â hi i orsaf heddlu lle cafodd ei holi a'i harchwilio gan feddyg.
Fe wnaeth yr heddlu gynnal ymchwiliad, gan gymryd swabiau a chadw dillad Michelle fel tystiolaeth.
Adroddodd y wasg yn lleol fod 80 o dditectifs wedi treulio’r dyddiau cyntaf ar ôl yr ymosodiad yn siarad â dros 1000 o bobol yn yr ardal, gan gynnwys disgyblion o 10 o ysgolion lleol.
Mewn achos llys flwyddyn yn ddiweddarach fe gafodd dyn ei ganfod yn ddieuog.
Byddai'r achos wedyn yn parhau heb ei ddatrys am y 45 mlynedd nesaf.
Mae Michelle wedi siarad ag ITV Cymru am ei phrofiad 46 mlynedd yn ddiweddarach.
‘Ofnus’
Erbyn hyn mae ganddi deulu ei hun ac mae wedi adeiladu busnes llwyddiannus.
“Roeddwn yn hollol ofnus”, meddai. "Nes i wthio llawer o’r profiad i gefn fy meddwl.,, achos roeddwn i mor ifanc a'n ceisio ymdopi â bywyd.
“Y peth mwya trawmatig oedd poeni os y bydden i’n llwyddo i fynd adref.”
Dywedodd Michelle fod trawma’r ymosodiad, yn ogystal ag ymdrechion ei theulu i’w hamddiffyn wedi tynnu llawer o lawenydd o’i bywyd wrth dyfu i fyny.
“Roeddwn i wedi fy lapio mewn gwlân cotwm. Doeddwn i ddim yn cael mynd i unman na gwneud dim byd, a’r cyfan oherwydd un person.
“Ces i ddim plentyndod a dwi’n meddwl mai dyna oedd y rhan waethaf ohono. Pan ddylwn i wedi fod yn cael hwyl, chwerthin a bod yn hapus gyda fy ffrindiau, roedd hwn yng nghefn fy meddwl trwy'r amser".
Roedd dillad Michelle, ynghyd â’r sampl DNA roedd ei hymosodwr wedi’i adael arnyn nhw, wedi cael eu storio’n ofalus am ddegawdau cyn i Heddlu De Cymru ailagor yr achos ym mis Chwefror 2021.
Anfonwyd y sampl DNA i'w brofi gan ddefnyddio technoleg nad oedd ar gael yn 1977. Daeth y sampl nôl gyda darganfyddiad allweddol.
Roedd y dystiolaeth yn dangos mai’r dyn a ymosododd ar Michelle y noson honno oedd Denis Coles o Gaerdydd. Roedd yn ei 20au yn 1977, ac wedi byw ei fywyd fel dyn rhydd.
Bellach yn ei 70au, mae ei drosedd wedi dal i fyny ag ef. Roedd y semen a ddarganfuwyd ar sgert, dillad isaf, sanau a chot Michelle yn cyfateb i DNA Denis Coles.
Ym mis Gorffennaf 2021, fe wnaeth dau swyddog arestio Coles yn ei gartref gofal. Dywedodd wrth swyddogion: "Dydw i ddim wedi treisio neb".
Ni allai roi unrhyw esboniad pam y canfuwyd ei DNA ar ddillad y dioddefwr.
Ar un adeg dywedodd wrth swyddogion: "Efallai fy mod wedi meddwi". Ar adeg arall dywedodd: "Dydw i ddim yn gwybod beth ddigwyddodd .... Ni allaf gofio. Roeddwn bob amser wedi meddwi".
Ddim yn ffit i sefyll ei brawf
Yn 2023, cynhaliwyd achos llys yn Llys y Goron Caerdydd.
Gofynnwyd i weithwyr proffesiynol amrywiol asesu a oedd Coles yn ffit i sefyll ei brawf am dreisio plentyn, ac yn y pen draw penderfynwyd bod ei iechyd yn golygu nad oedd.
Arweiniodd hynny at yr hyn a elwir yn "dreial o'r ffeithiau", sy'n digwydd os canfyddir bod y sawl a gyhuddir yn anaddas i sefyll ei brawf. Mae hyn yn caniatáu i'r dystiolaeth yn erbyn y diffynnydd i gael eibhrofi i ryw raddau.
O dan y gyfraith, roedd rheithgor ond yn gallu canfod Coles yn "euog o'r weithred", yn hytrach nag yn euog o'r drosedd yn y ffordd arferol. Mae hyn yn golygu pa bynnag ddedfryd y bydd y barnwr yn ei benderfynu yn ddiweddarach eleni, ni fydd yn mynd i’r carchar.
‘Bwrw ymlaen â fy mywyd’
“Nid dyna’r cyfiawnder roeddwn i eisiau,” meddai Michelle.
“Ond rydw i wedi derbyn yr hyn sydd wedi digwydd ac rydw i eisiau bwrw ymlaen â fy mywyd. Rydw i mor ddiolchgar i’r holl bobl yn yr heddlu a weithiodd i gyrraedd mor bell.
“I feddwl y gallai rhywun fod wedi dianc o hyn ar ôl yr holl flynyddoedd, rwy’n meddwl ei fod yn anhygoel beth roedd DNA yn gallu ei wneud”.
Dywedodd Michelle nad oes ganddi neges Coles, “oherwydd nid yw'n werth meddwl amdano. Rwy'n berson gwell nag y bydd e byth.
"Ac roeddwn i yn y lle anghywir ar yr amser anghywir."
Mae disgwyl i Coles gael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Gorffennaf.