E.coli: Person wedi marw wrth i nifer yr achosion gynyddu
Mae person wedi marw ar ôl cael ei heintio gyda E.coli, yn ôl Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU.
Dywedodd yr asiantaeth fod y person wedi marw yn Lloegr ym mis Mai a bod ganddyn nhw gyflyrau iechyd oedd yn bodoli eisoes.
Bu farw person arall yn Lloegr, a oedd hefyd â chyflyrau iechyd oedd yn bodoli eisoes, o fewn 28 diwrnod o gael eu heintio â'r straen presennol, STEC.
Ond dywedodd yr asiantaeth fod gwybodaeth yn awgrymu mai dim ond "un o'r marwolaethau hyn sy'n debygol o fod yn gysylltiedig â'u haint STEC".
Y gred yw bod yr achosion yn ymwneud â brechdanau sydd yn cael eu gwerthu yn rhai o archfarchnadoedd y DU.
Dywedodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd mai letys yw'r cynhwysyn sy'n debygol o fod yn gyfrifol am ledaenu'r haint.
Mae sawl cwmni cynhyrchu bwyd wedi tynnu rhai o'u cynnyrch yn ôl o archfarchnadoedd, gan gynnwys Asda, Aldi, Sainsbury’s, Morrisons a’r Co-op.
Ers 25 Mehefin, mae 19 achos arall o STEC wedi cael eu cofnodi yn y DU - sy'n dod â chyfanswm yr achosion i 275.
Yng Nghymru, mae 31 achos o'r haint wedi cael eu cofnodi.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud eu bod yn "gweithio gyda'u partneriaid ar hyd y DU er mwyn dod o hyd i achos y lledaeniad".
Dywedodd Darren Whitby o'r Asiantaeth Safonau Bwyd bod y cwmnïau cynhyrchu bwyd wedi penderfynu gweithredu oherwydd bod yr asiantaeth yn cydweithio ag eraill i gynnal ymchwiliadau er mwyn dod o hyd i darddiad achosion newydd o E.coli.
Beth yw E.coli?
Math o facteria yw E.coli sydd yn byw yn y coluddyn.
Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, nid yw'r rhan fwyaf o fathau o E.coli yn achos niwed, ond gall rhai fel STEC achosi gwenwyn bwyd difrifol.
Gall heintiau sydd yn cael eu hachosi gan STEC achosi dolur rhydd gwaedlyd difrifol ac, mewn rhai achosion, cymhlethdodau mwy difrifol.
Mae'n aml yn cael ei drosglwyddo drwy fwyd ond gall hefyd gael ei ledaenu trwy gysylltiad agos â pherson sydd wedi ei heintio, yn ogystal â chysylltiad uniongyrchol ag anifail sydd wedi ei heintio.