Cyhuddo dyn 31 oed o ardal Wrecsam o dreisio
Mae dyn 31 oed o ardal Wrecsam wedi’i gyhuddo o dreisio.
Cafodd digwyddiad ei adrodd i Heddlu Gogledd Cymru yn ardal Cefn Mawr yn oriau mân fore Llun 24 Mehefin.
Yn dilyn ymchwiliad gan yr heddlu, cafodd Daniel Stevie Evans, o Stryd y Ffynnon, Cefn Mawr, ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad ac mae wedi’i gyhuddo o dreisio.
Mae dyn 28 oed o’r tu allan i ardal yr heddlu, a gafodd ei arestio hefyd mewn cysylltiad â’r digwyddiad, wedi’i ryddhau ar fechnïaeth.
Cafodd Mr Evans ei gadw yn y ddalfa cyn ymddangos o flaen Llys Ynadon yr Wyddgrug fore dydd Iau.
Fe fydd yn ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Gwener.
Mae'r Ditectif Arolygydd Cefyn Roberts o'r llu yn gofyn i unrhyw un a welodd y digwyddiad i gysylltu â'r heddlu.
“Rydym yn parhau i apelio ar unrhyw un oedd yn ardal y gylchfan ger Tesco yng Nghefn Mawr tua 6am fore Llun i gysylltu â ni drwy’r wefan, neu drwy ein ffonio ar 101, gan ddefnyddio’r cyfeirnod 24000555032.”
Llun: Google