Newyddion S4C

Diweddglo hapus i gi chwe choes gafodd ei ddarganfod mewn maes parcio yn Sir Benfro

27/06/2024
Ariel

Mae ci chwe choes a gafodd ei ddarganfod mewn maes parcio wedi cael ei fabwysiadu. 

Fe gafodd Ariel, oedd yn 11 wythnos ar y pryd, ei darganfod y tu allan i archfarchnad yn Sir Benfro ym mis Hydref y llynedd. 

Cafodd £15,000 ei godi i sicrhau llawdriniaeth i dynnu ei dwy goes cefn, ac erbyn hyn, mae'r spaniel wedi cael ei mabwysiadu gan gwpl sy'n byw ger y môr ac sy'n dysgu pobl anabl sut i syrffio. 

Cafodd ei henwi ar ôl y cymeriad Little Mermaid oherwydd bod ei dwy goes gefn a gafodd eu huno yn edrych yn debyg i fôr-forwyn. 

Wedi iddi gael ei darganfod, fe gafodd Ariel ei chludo i Ganolfan Achub Greenacres ger Hwlffordd.

Ar yr un pryd, roedd Emma-Mary Webster ac Ollie Bird newydd golli eu ci nhw, Pippin, oedd yn 16 oed. 

'Wrth i bodd'

Wrth siarad â'r BBC, dywedodd Ollie Bird: "Roedd ein calonnau ni wedi torri cymaint ein bod ni'n teimlo na fyddai hi byth yn bosib i gael ci arall, ond roedd yr hiraeth mor fawr ac fe wnaethom ni sylwi fod rhaid i ni wneud rhywbeth rhywsut. 

"Felly fe wnaethom ni wneud cais i Greenacres i weld os oedd yna unrhyw gi ar gael i'w mabwysiadu, ac yn eithaf sydyn, fe gawsom ni alwad yn dweud eu bod nhw'n credu fod ganddyn nhw'r ci perffaith i ni."

Ar yr adeg hynny, nid oedd gan y cwpl unrhyw syniad am hanes Ariel. 

"Hyd yn oed rwan, pan rydym ni'n mynd â hi am dro ar hyd yr arfordir, mae rhywun yn dod atom ni ac yn gofyn am selfie gyda hi," meddai Mr Bird.

"Ac mae Ariel wrth ei bodd gyda'r sylw, heb sôn am y bywyd ar y traeth a'r hwyl yn y môr."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.