Newyddion S4C

Oedran yn bwnc llosg wrth i Joe Biden a Donald Trump baratoi ar gyfer eu dadl gyntaf

Joe Biden a Donald Trump

Bydd oedran yn bwnc llosg wrth i’r Arlywydd Joe Biden a Donald Trump baratoi ar gyfer dadl gyntaf y ras arlywyddol nos Iau.

Fe fydd y ddadl yn Atlanta, Georgia llai na phum mis cyn yr Etholiad Arlywyddol ar 5 Tachwedd.

Bydd yn cael ei darlledu am 20.00 ar CNN - sef 1.00 y bore ddydd Gwener yn y Deyrnas Unedig.

Mae’r arolygon barn yn awgrymu bod y ras arlywyddol yn un agos gyda llond dwrn o daleithiau allweddol yn y fantol.

Un o’r prif bynciau sy’n debygol o gael sylw wrth ddadansoddi’r ornest yw oed yr ymgeiswyr.

Mae ymgyrch Donald Trump wedi cyhuddo Joe Biden, sy’n 81, o fod yn hen ac yn ffwndrus, a chefnogwyr Joe Biden wedi cyhuddo Donald Trump, sy’n 78, o gynnig atebion annealladwy.

Dywedodd Elaine Kamarck o felin drafod Brookings Institution yn Washington, DC, wrth Al Jazeera bod Americanwyr am weld “pa mor egnïol yw’r ymgeiswyr”.

“Rwy’n credu y bydd y dadleuon yn dangos gallu'r dynion hyn,” meddai.

“Mae’r ddau ohonyn nhw’n hŷn nag unrhyw un sydd wedi rhedeg i fod yn arlywydd – erioed.”

Y drefn

Bydd y ddadl yn parhau am 90 munud a bydd lleisiau'r ymgeiswyr yn cael ei miwtio er mwyn rhoi cyfle i’r ddau siarad.

Ni fydd yna gynulleidfa y tu hwnt i’r cyflwynwyr Jake Tapper a Dana Bash.

Bydd y ddadl arlywyddol yn digwydd ynghynt na’r arfer eleni gyda’r ddau ymgeisydd yn awyddus i’w chynnal cyn bod y cyfnod pleidleisio drwy’r post yn cychwyn.

Nid yw’r Gweriniaethwyr na’r Democratiaid wedi dewis eu hymgeiswyr yn swyddogol eto, proses sy’n digwydd yng nghynadleddau'r pleidiau yn yr hydref.

Fe wnaeth 73 miliwn o bobl wylio’r ddadl gyntaf rhwng y ddau ymgeisydd yn 2020 ond gallai’r ffigwr yna fod yn is eleni oherwydd ei fod yn gynharach yn y flwyddyn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.