Newyddion S4C

Atal un o aelodau Llafur y Senedd wrth ymchwilio i rifau cofrestru car

ITV Cymru
Rhianon Passmore

Mae un o aelodau’r Blaid Lafur yn y Senedd wedi ei hatal o’r blaid yn weinyddol wrth iddyn nhw ymchwilio i’w gweithredoedd.

Dywedodd y blaid eu bod nhw’n ymchwilio i honiadau a gafodd eu gwneud ar-lein yn erbyn Rhianon Passmore, yr Aelod o Senedd Cymru dros Islwyn.

Daw wedi i honiadau am Rhianon Passmore gael eu cyhoeddi ar wefan Guido Fawkes ddydd Mercher.

Roedd y wefan yn honni ei bod hi wedi ei gweld yn gyrru car gyda dau rif cofrestru arno, gan gyhoeddi llun yn dangos rhif plat car yn syrthio i ffwrdd.

"Mae'r Blaid Lafur yn cymryd ymddygiad ein cynrychiolwyr etholedig o ddifrif ac mae pob cwyn yn cael ei hymchwilio yn unol â threfn gwyno'r blaid,” meddai y Blaid Lafur.

Mae Rhianon Passmore wedi cael cais am sylw.

Mae’n golygu mai dim ond 29 o’r 60 o seddi sydd gan Lafur yn y Senedd am y tro, a allai olygu bod ennill pleidleisiau yn dalcen caled i'r blaid yn sgil diwedd y cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru.

Cafodd Rhianon Passmore ei gwahardd o’r Senedd am 14 diwrnod yn 2018.

Daeth hynny wedi iddi gael ei gwahardd rhag gyrru gan ynadon Casnewydd ar 12 Chwefror 2018, ar ôl cyfaddef iddi fethu â darparu prawf anadl.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.