Newyddion S4C

Agor noddfa i bobl ifanc sy'n wynebu argyfwng iechyd meddwl yn Abertawe

27/06/2024
Noddfa Bae Abertawe

Mae noddfa i blant a phobl ifanc sy’n wynebu argyfwng iechyd meddwl wedi agor ym Mae Abertawe. 

Nod y  ganolfan yn Llansamlet yw cefnogi pobl ifanc rhwng 12 ac 18 oed sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl difrifol, heb iddyn nhw orfod mynd i adrannau achosion brys. 

Mae’r Gwasanaeth Noddfa Plant a Phobl Ifanc yn bartneriaeth rhwng Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a’r elusen iechyd meddwl, Adferiad. Mae wedi ei  ariannu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o gynllun i gefnogi pobl ifanc yn well. 

Ar hyn o bryd, mae pobl ifanc yn gallu cael mynediad i’r gwasanaeth wedi iddyn nhw gael eu cyfeirio yna gan aelod o dîm argyfwng CAMHS. 

Ond mae ‘na  gynlluniau i ehangu’r llwybr mynediad yn y dyfodol, meddai  Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. 

Dywedodd Claire Norman, nyrs arweiniol o dîm CAMHS bod y noddfa yn “lleoliad mwy priodol o’r cychwyn cyntaf” i berson ifanc gael mynediad at gymorth iechyd meddwl, gan gael gwared a’r “anhrefn a phrysurdeb” mewn uned frys. 

“O'r blaen, pan oedden nhw mewn trallod, byddai pobl ifanc yn cyflwyno i feysydd fel yr Uned Asesu Plant neu’r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Treforys nad yw’r lle gorau i fod pan fyddan nhw'n profi trallod emosiynol neu argyfwng iechyd meddwl," meddai.

“Mae cydnabyddiaeth wedi bod nad oedd rhywle i bobl ifanc fynd - mae'r Noddfa yn rhoi'r cyfle iddyn nhw gael cefnogaeth mewn amgylchedd tawel mwy priodol.”  

Image
Claire Norman
Claire Norman

'Llenwi bwlch'

Mae’r noddfa ar agor rhwng 10.00 - 22.00 bob dydd yr wythnos ar hyn o bryd, ond o ddiwedd mis Gorffennaf mi fydd  ar agor gyda’r nos ac  yn ystod oriau man y bore. 

Dywedodd Lianne Martynski, o elusen Adferiad bod y math yma o wasanaeth yn “llenwi bwlch.” 

“Nid oes cyfleuster priodol wedi bod ar gyfer plant a phobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl neu sydd mewn perygl o argyfwng iechyd meddwl,"meddai.

“Bu angen mawr am y math hwn o wasanaeth ac rydym yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth i lenwi’r bwlch.”  

Image
Lianne
Lianne Martynski

Cipolwg y tu fewn i'r Noddfa

Mae ‘na gegin ac ardal gymunedol y tu fewn i’r noddfa, yn ogystal ag ystafell gemau ac ystafelloedd preifat ble gall pobl derbyn cymorth cyfrinachol. 

Image
Y Noddfa
Image
Y Noddfa

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.